Charles Paget: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (3) using AWB
B clean up
Llinell 1:
 
{{Infobox military person
| honorific_prefix =
Llinell 35 ⟶ 34:
==Cefndir==
[[Delwedd:Lady Paget.jpg|bawd|chwith|Ledi Paget]]
Roedd Syr Charles yn bumed mab i Henry Bayly Paget, nawfed Barwn Paget a'r iarll cyntaf Uxbridge o'r ail greadigaeth a'i wraig, (Jane née Champagne). Roedd yn frawd i [[Henry William Paget]], [[Ardalydd Môn|ardalydd cyntaf Môn]], Syr Arthur Paget, a Syr Edward Paget.
 
Ar 7 Mawrth 1805 Priododd Elizabeth Araminta (bu f. 1843), merch Henry Monck o Foure, Swydd Westmeath; bu iddynt bedwar mab a chwe merch. Pythefnos ar ôl priodi ceisiodd cyflawni hunanladdiad trwy gymryd gorddos o lodnwm ar ôl i'w wraig ei watwar<ref name=":0">[http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1790-1820/member/paget-hon-charles-1778-1839 PAGET, Hon. Charles (1778-1839), of Fair Oak, Rogate, Suss. History of Parliament adalwyd 6 Mehefin 2016]
Llinell 44 ⟶ 43:
Aeth Paget i'r [[Y Llynges Frenhinol|Llynges Frenhinol]] ym 1790 o dan nawdd Syr Andrew Snape Douglas, ac, ar ôl gwasanaethu ym [[Môr y Gogledd]] a [[Môr Udd]], cafodd ei benodi'n is gapten ar y gwarchodlong ''Centaur'' yn y [[Afon Tafwys|Tafwys]] ym 1796; ym 1797 fe'i dyrchafwyd yn feistr ar y slŵp ''Martin'' ym Môr y Gogledd, ac ym 1797 cafodd ei bostio i'r ''Penelope'' a oedd yn amddiffyn Môr Udd.
 
O fis Hydref 1798 fe fu'n feistr yr ''Brilliant'' ar Fôr Udd ac wedyn y ''Hydra'' ar Fôr Udd ac ar [[Y Môr Canoldir|Fôr y Canoldir]]. Ym 1803 bu'n feistr yr ''Endymion'' ffrigad fawr, gan ei hwylio ar [[Bae Biskaia|Fae Biskaia]] ac ar arfordiroedd [[Penrhyn Iberia|Iberia]]. Ym 1804 cipiodd pedair llong drysor [[Sbaen|Sbaenaidd]]aidd o [[De America|Dde America]], gan ennill gwerth £26,000 o drysorau.
 
Rhwng 1817-1819 roedd yn feistr i un o gychod hwylio brenhinol y [[Siôr IV, brenin y Deyrnas Unedig|Dywysog Rhaglaw]]. Ym 1823 fe'i dyrchafwyd yn gefn-lyngesydd. Rhwng 1828 a 1831 ef oedd gadlywydd blaenaf gorsaf [[Corc]] y llynges a oedd yn gyfrifol am amddiffyn arfordiroedd yr [[Iwerddon]]. Ym 1837, fe wnaed is-lyngesydd gyda chyfrifoldeb am orsaf [[Gogledd America]] ac [[Y Caribî|India'r Gorllewin]] swydd bu ynddi hyd ei farwolaeth.<ref name=":1">[https://archive.org/stream/cihm_75445#page/n11/mode/2up A memoir of the Honourable Sir Charles Paget G.C.H. (1778-1839) vice-admiral of ''The White'' and commander-in-chief of the North America II And West Indian station and reminiscences of my life and family gan Edward Clarence Paget; Toronto 1911] adalwyd 6 Mehefin 2016</ref>
Llinell 51 ⟶ 50:
Gwasanaethodd Paget fel Aelod Seneddol Milbourn Port, etholaeth bwdr ym mhoced ei deulu ger Sherborne, Gwlad yr Haf rhwng 1804 a 1806 pan ildiodd y sedd i'w gefnder Henry William yr Arglwydd Paget.
 
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol [[Caernarfon (etholaeth seneddol)|Bwrdeistrefi Caernarfon]], etholaeth arall a ystyriwyd oedd yn eiddo i'w deulu rhwng 1806 a 1826 gan ildio'r sedd i'w nai yr Arglwydd William Paget. Etholwyd ef dros Fwrdeistrefi Caernarfon am yr ail dro ym 1831. Cafodd ei herio am y sedd yn etholiad cyffredinol 1832, y cyntaf ar ôl pasio'r Deddf Diwygio Fawr; wedi cyfri'r pleidleisiau cyhoeddwyd mai ef oedd y buddugol. Heriwyd y canlyniad gan ei wrthwynebydd yn yr etholiad, [[Owen Jones Ellis Nanney]], a honnodd bod nifer o'r rai a fwriodd pleidlais ar gyfer Paget heb hawl gyfreithiol i wneud hynny a bod nifer o etholwyr dilys oedd am bleidleisio iddo ef wedi eu gwrthod. Ar 5 Mawrth 1833 cytunodd pwyllgor seneddol bod y canlyniad yn annilys a bod Nanney wedi ei iawn ethol<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4459543|title=Notitle - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality|date=1833-03-12|accessdate=2016-06-05|publisher=Kenmuir Whitworth Douglas}}</ref>. Apeliodd Paget yn erbyn y penderfyniad ar y sail nad oedd y pwyllgor gwreiddiol wedi rhoi sylw dilys i'w ddadleuon yntau ac ar 16 Mai 1833 penderfynodd pwyllgor newydd mae Paget oedd yr aelod dilys<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3391827|title=HOUSE OF COMMONS - Monmouthshire Merlin|date=1833-05-25|accessdate=2016-06-05|publisher=Charles Hough}}</ref><ref> Cases of Controverted Elections determined in the Eleventh Parliament of the United, gan Sir Alexander James Edmund Cockburn, Sir William Carpenter Rowe Tŷ’r Cyffredin 1833 tud 127-138 a 550-560</ref>.
 
Roedd Paget yn cefnogi'r Whigiaid, mewn enw, yn y Senedd er dim ond ar unwaith ynganodd gair mewn araith yno; araith yn clodfori nofdorch Mallison, a gwan oedd ei record o bleidleisio yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]], yn bennaf gan ei fod yn gwario gymaint o amser i ffwrdd ar y môr.<ref name=":0" />
Llinell 84 ⟶ 83:
{{diwedd-bocs}}
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Paget, Charles}}
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]