Brwydr Leipzig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Karte Voelkerschlacht bei Leipzig 18 Oktober 1813.png|bawd|300px|Map o frwydr Leipzig]]
 
Ymladdwyd '''Brwydr Leipzig''', a elwir hefyd '''Brwydr y Cenhedloedd''' ([[Almaeneg]]: ''Völkerschlacht bei Leipzig'') rhwng [[16 Hydref|16]] a [[19 Hydref]] [[1813]], rhwng byddin Ffrengig dan [[Napoleon Bonaparte]] a byddin y cyngheiriaid, yn cynnwys Awstriaid dan [[Karl Philipp, Tywysog Schwarzenberg|Dywysog Schwarzenberg]], [[Prwsia]]id dan [[Gebhard von Blücher]] a [[Rwsia]]id dan [[Michael Andreas Barclay de Tolly|Barclay De Tolly]] ymysg eraill. Hon oedd y frwydr fwyaf a ymladdwyd yn Ewrop cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Gorchfygwyd Napoleon, ac ychydig fisoedd wedyn bu raid iddo ymddiswyddo fel Ymerawdwr ac chael ei alltudio i [[Ynys Elba]].
 
Wedi i ymosodiad Napoleon ar Rwsia yn [[1812]] fethu, ffurfiodd ei elynion y Chweched Cynghrair yn ei erbyn. Enillodd Napoleon ddwy fuddugoliaeth ym mis Mai 1813, yn Lützen a Bautzen. Yn yr hydref, gorfodwyd ef i ymladd ger Leipzig. Roedd ganddo tua 190,000 o filwyr, tra'r oedd gan y cyngheiriaid 200,000 ar 16 Hydref, yn cynyddu i 330,000. Roedd colledion y cyngheiriaid yn fwy na rhai Napoleon, 55,000 wedi eu lladd neu eu clwyfo i'w gymharu a 40,000 o filwyr Napoleon, ond cymerwyd 30,000 o Ffrancwyr yn garcharorion. Gorfodwyd Napoleon i encilio dros [[Afon Rhein]].