Byddin Rhyddid Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B clean up
Llinell 3:
Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd '''Byddin Rhyddid Cymru''' ([[Saesneg]]: ''Free Wales Army'' neu ''FWA'').
 
Sefydlwyd y fyddin yn [[Llanbedr Pont Steffan]] yn [[1963]] gan [[William Julian Cayo-Evans]], gyda'r bwriad o gymeryd lle [[Mudiad Amddiffyn Cymru]]. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref [[Capel Celyn]] a chyn [[Arwisgiad Tywysog Cymru]] yn 1969.
 
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.
 
==Achos llys==
Ym [[1969]], rhoddwyd naw o arweinyddion y fyddin, [[Julian Cayo-Evans]], [[Dennis Coslett]], [[William Vernon Davies]], [[Vivian George Davies]], Keith Davies ([[Gethin ap Iestyn|Gethin ab Iestyn]]) a [[David Bonnar Thomas]]<ref>''Charges against alleged Free Wales Army members''.Times [London, England] 7 Mar. 1969: 4. ''The Times Digital Archive''. Adalwyd 28 Mawrth, 2016. [http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=CS67334247&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0]</ref> [[David John Underhill]], [[Glyn Rowlands]] a [[Tony Lewis (FWA)|Tony Lewis]]<ref>''Nine men for trial in Wales army case''. Times [London, England] 13 Mar. 1969: 3. ''The Times Digital Archive''. Adalwyd 29 Mawrth 2016.[http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=CS51212397&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0]</ref> ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.
 
Ar ddechrau'r achos gwrthododd y diffynyddion ufuddhau i'r orchymyn "All Silence", trwy ganu [[Hen Wlad fy Nhadau|Hen Wlad fy Nhadau.]].
 
Er bod y mwyafrif o'r troseddau honedig cyhuddwyd y diffynyddion o'u cyflawni wedi eu cyflawni, yn ôl y cyhuddwyr, yn [[Sir Gaerfyrddin|Siroedd Caerfyrddin]] a [[Sir Feirionnydd|Meirionydd]], cynhaliwyd yr achos traddodi yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] a'r achos o flaen [[Llys y Goron]] yn [[Abertawe]]. Gofynnodd John Gower QC ar ran Dai Bonner i'r achos cael ei glywed yn Llys y Goron [[Caerfyrddin]] gan awgrymu bod yr awdurdodau wedi dewis Caerdydd ac Abertawe ar gyfer clywed yr achos yn fwriadol, o'r herwydd y tebygolrwydd uwch o gael rheithfarn wrth Gymreig yn y dinasoedd nac yn y trefi Cymraeg, gwrthodwyd y cais. Gwrthododd Cayo a Cosslett pledio, a chofrestrwyd ple o ddieuog ar eu rhan, plediodd y diffynyddion eraill yn ddieuog. Gan fod Cayo a Glyn Rowlands yn dymuno i'r achos cael ei glywed trwy'r Gymraeg, caniatawyd i gyfieithwyr eistedd y tu ôl iddynt i sibrwd cyfieithiad Cymraeg o'r achos yn eu clustiau<ref>Our South Wales Correspondent. ''Accused sing the Welsh anthem.'' Times (London, England) 17 Apr. 1969: 2. The Times Digital Archive. Web. 29 Mar. 2016.[http://find.galegroup.com/dvnw/infomark.do?&source=gale&prodId=DVNW&userGroupName=nlw_ttda&tabID=T003&docPage=article&docId=CS35090577&type=multipage&contentSet=LTO&version=1.0]</ref> .