Arminius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
mwy
Llinell 11:
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brwydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Suetonius]], gyrrwyd yr ymerawdwr [[Augustus]] bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi ''Quintili Vare, legiones redde!'' ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")
 
Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd [[Afon Rhein]]. Ymladdodd Arminius yn erbyn [[Tiberius]], yna o [[14]] OC, wedi i Tiberius olynu Augustus fel ymerawdwr, yn erbyn nai Tiberius, [[Germanicus]]. Bu brwydro caled, ond enillodd Germanicus nifer o fuddugoliaethau dros Arminius, yn enwedig ger Idistoviso ar [[Afon Weser]] yn [[16]]. Gallodd adennill [[eryr (lleng)|eryr]] pob un o'r tair lleng a gollwyd ym Mrwydr Fforest Teutobug. Dymunai Germanicus barhau ei ymgyrchoedd yn [[Germania]], ond galwodd Tiberius ef yn ôl i Rufain a'i anfon ar ymgyrch yn y dwyrain.
 
Yn ddiweddarach, dechreuodd rhyfel rhwng Arminius a Marbod, brenin y Marcomanni. Gorfodd Arminius ei elyn i encilio, ond ni allai ei yrru allan o'i gadarnleoedd yn yr ardal a eleir yn [[Bohemia]] heddiw. Yn [[21]] llofruddiwyd ef gan aelodau o'i lwyth ei hun a'r [[Chatti]], oedd yn teimlo ei fod yn mynd yn rhy bwerus.