Arminius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
mwy
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Roedd Arminius yn aelod o lwyth y [[Cherusci]] ac yn fab i'w pennaeth Segimerus. Bu'n ymladd dros Rufain, a rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig iddo. Dychwelodd i'r Almaen a daeth yn arweinydd cynghrair o lwythau Almaenig i wrthwynebu Rhufain.
 
Yn 9 OC, enillodd ei fuddugoliaeth fwyaf yn [[Fforest TutoburgTeutoburg]]. Ymladdwyd y frwydr dros nifer o ddiwrnodau, yn ôl pob tebyg rhwng [[9 Medi]] ac [[11 Medi]], a'r canlyniad oedd i dair [[lleng Rufeinig]] dan [[Publius Quinctilius Varus]], ([[Legio XVII]], [[Legio XVIII]] a [[Legio XIX]]), gael eu dinistrio'n llwyr gan yr Almaenwyr dan Arminius.
 
Roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag yn unrhyw frwydr yn erbyn gelyn allanol ers [[Brwydr Cannae]] yn erbyn [[Hannibal]]. Ni chafodd y tair lleng a ddinistriwyd eu hail-ffurfio. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig [[Suetonius]], gyrrwyd yr ymerawdwr [[Augustus]] bron yn wallgof gan y newyddion am y digwyddiad, gan daro ei ben yn erbyn muriau y palas a gweiddi ''Quintili Vare, legiones redde!'' ("Quintilius Varus, rho fy llengoedd yn ôl imi!")