Oes y Seintiau yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
B clean up
Llinell 2:
Mae '''Oes y Seintiau yng Nghymru''' yn ymestyn o tua [[390]], pan geir y dystiolaeth olaf o bresenoldeb y fyddin Rufeinig, hyd tua [[600]]. Nodweddir y cyfnod gan dwf [[Cristnogaeth]].
 
Parhaodd dylanwad y Rhufeiniaid hyd yn oed ar ôl i'r milwyr adael. Mae carreg fedd o ddiwedd y bumed ganrif yn eglwys [[Penmachno]] sy'n taflu goleuni diddorol ar hyn. Mae'n coffáu gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Ladin fel ''Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati'', neu yn Gymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at "ddinesydd" ac ynad (''magistratus'') yn awgrymu parhad y drefn Rufeinig, yng Ngwynedd o leiaf, am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.
 
Mae cloddio archaeolegol wedi datgelu rhywfaint am y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid. Y safle sydd wedi rhoi y rhan fwyaf o wybodaeth yw bryngaer [[Dinas Powys (bryngaer)|Dinas Powys]] ym Morgannwg, lle roedd y trigolion yn amlwg yn perthyn i haen uchaf cymdeithas. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal [[Môr y Canoldir]], [[gwydr]] o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir mai llys pennaeth neu frenin oedd Dinas Powys yn y cyfnod hwn. Ceir hefyd dystiolaeth meini ag arysgrifen arnynt. Yng ngogledd Cymru roedd y rhain yn [[Lladin]], ond yn y de-orllewin a [[Brycheiniog]] mae'r arysgrifau yn [[Ogam]] neu'n ddwyieithog. Ymddengys fod Gwyddelod wedi ymsefydlu yma yn y cyfnod wedi i'r Rhufeiniaid adael os nad ynghynt, ac roedd teulu brenhinol [[Teyrnas Dyfed]] o dras Wyddelig.
 
Daeth [[Cristnogaeth]] Gymraeg i'r amlwg gyntaf yn ne-ddwyrain Cymru, gyda thystiolaeth o Gristionogion mewn sefydliadau megis [[Caerwent]] a [[Caerleon]] yn y cyfnod Rhufeinig. Roedd [[Sant Dyfrig]] yn un o'r arweinwyr cyntaf. Cawn wybodaeth am y seintiau yn eu bucheddau, ond yn anffodus mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi goroesi wedi eu hysgrifennu ar ôl y goncwest Normanaidd. Ymhlith y seintiau enwocaf mae [[Dewi Sant]], [[Seiriol]], [[Teilo]], [[Illtud]], [[Cadog]] a [[Deiniol]]. Roedd cysylltiadau agos rhwng Cymru ag [[Iwerddon]] a [[Llydaw]].
 
Ceir rhywfaint o wybodaeth am hanner cyntaf y [[6g]] yng ngwaith [[Gildas]], y ''De Excidio Britanniae'', sy’n bregeth mewn tair rhan yn condemnio pechodau’r [[Brythoniaid]] yn ei oes ef ac yn awgrymu mai oherwydd y pechodau hyn yr oedd y [[Sacsoniaid]] wedi goresgyn rhan helaeth o’r ynys. Mae’n condemnio pum teyrn yn arbennig, yn cynnwys [[Maelgwn Gwynedd]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], y mwaf grymus o'r pump.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 16:
==Gweler hefyd==
* [[Rhestr o seintiau Cymru]]
 
{{eginyn hanes Cymru}}
{{eginyn Cristnogaeth}}
 
[[Categori:Oes y Seintiau yng Nghymru| ]]
Llinell 22 ⟶ 25:
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]]
[[Categori:Hanes crefydd yng Nghymru]]
 
{{eginyn hanes Cymru}}
{{eginyn Cristnogaeth}}