Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 3 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
[[Delwedd:Dalriada.jpg|bawd|200px|Dál Riata tua 580–600. Tiriogaethau'r [[Pictiaid]] mewn melyn.]]
 
Teyrnas [[Gaeleg]] ei hiaith ar arfodir gorllewinol [[yr Alban]] oedd '''Dál Riata''', hefyd '''Dalriada''' neu '''Dalriata'''. Roedd ei thiriogaeth yn yr ardaloedd sydd nawr yn [[Argyll a Bute]], a [[Lochaber]] yn yr Alban, a [[Swydd Antrim]] yng ngogledd [[Iwerddon]].
 
Y farn draddodiadol oedd fod Dál Riata wedi ei sefyldu gan ymfudwyr o Iwerddon, ond mae cryn amheuaeth am hyn bellach, yn enwedig o ystyried y cofnod archaeolegol. Cyfeirir ar drigolion Dál Riata yn aml fel y ''Scotti'' yn Lladin.
 
Cyrhaeddodd y deyrnas ei huchafbwynt dan [[Áedán mac Gabráin]], ei brenin rhwng [[574]] a [[608]], ond gorchfygwyd ef ym [[Brwydr Degsastan|Mrwydr Degsastan]] yn [[603]] gan [[Æthelfrith, brenin Northumbria]]. Gorchfygwyd [[Dyfnwal Frych]] (Domnall Brecc), a ddaeth yn frenin tua [[629]], mewn brwydrau yn Iwerddon, cyn ei orchfygu a'i ladd gan fyddin teyrnas Frythonig [[Ystrad Clud]] yn [[642]]. Daeth y deyrnas dan reolaeth [[Northumbria]], yna dan reolaeth y [[Pictiaid]].
 
Cred rhai ysgolheigion fod Dál Riata wedi adennill ei nerth dan [[Áed Find]] (736-778), ond mae eraill yn amau hyn. Yn draddodiadol unwyd Dál Riata a theyrnas y Pictiaid gan [[Cináed mac Ailpín]] (Kenneth mac Alpin, 800-858).
345,787

golygiad