Elidir Lydanwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 2 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1120124 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 7:
Mae disgynyddion eraill Coel Hen yn cynnwys [[Urien Rheged]], Llywarch Hen, [[Clydno Eidyn]], [[Pabo Post Prydain]], [[Eliffer Gosgorddfawr]] a [[Gwenddolau]]. Roedd Elidir yn frawd i [[Cynfarch fab Meirchion|Gynfarch]], tad Urien Rheged.
 
Yn ôl y testun ''De Situ [[Brycheiniog|Brecheiniauc]]'', priododd Elidir â Gwawr ferch [[Brychan Brycheiniog]], a chafwyd Llywarch Hen o'r briodas.
 
Yn ôl y traddodiad a geir yn nhestunau fersiwn Gwynedd o [[Cyfraith Hywel|Gyfraith Hywel]], yr oedd Elidyr Lydanwyn yn frenin [[Rheged]] ac yn briod â chwaer [[Rhun ap Maelgwn Gwynedd]]. Hawliodd Elidir orsedd [[teyrnas Gwynedd]], ond pan ymwelodd a'r deyrnas lladdwyd ef gan wŷr [[Arfon]] yn Aber Meweddus, ger [[Clynnog Fawr|Clynnog]]. I ddial ei farwolaeth, ymosodwyd ar Wynedd gan ei ddau gefnder, [[Rhydderch Hael]] o [[Ystrad Clud]] a [[Clydno Eiddin]]. Dywedir i'w byddin hwy ddiffeithio Arfon, ac i ddial am hyn arweiniodd Rhun fyddin i'r Hen Ogledd cyn belled ag [[Afon Forth]].