Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rheged"

Lleihawyd o 3 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB)
B (→‎top: clean up)
Roedd '''Rheged''' yn deyrnas [[Brython|Frythonig]] yn [[Yr Hen Ogledd]] oddeutu’r [[6g]]. Yn ei hanterth, roedd yn roedd yn cynnwys pob rhan o'r 'Cumbria' fodern, gan gynnwys [[Catraeth]], ac ymddengys mai [[Caerliwelydd]] oedd canolfan y deyrnas. Roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin [[Lloegr]] (i'r dwyrain o'r ''[[Pennines]]'' ac efallai dros ran o dde-orllewin [[Yr Alban]]; roedd yn cynnwys [[Dumfries a Galloway]] ac o bosib [[Swydd Ayr]] (neu Deyrnas Aeron). Eu harweinyddion mwyaf adnabyddus oedd Urien a'i fab Owain. Daeth y deyrnas i ben oddeutui 635 pan briododd gorwyres Urien gyda'r [[Oswy|Tywysog Oswiu o Northumbria]]. Ceir cyflwyniad o hanes y deyrnas yng Nghanolfan Rheged yn [[Penrith]], Cumbria.
 
Ceir cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth [[Taliesin]], sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, [[Urien Rheged]], ac i’w fab [[Owain fab Urien]]. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd [[Catraeth]].
 
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
* [[Owain ab Urien]]
 
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd [[Llywarch Hen]].
 
Wedi i deynasoedd [[Eingl-Sacsoniaid]] [[Brynaich]] a [[Deifr]] uno I ddod yn deyrnas [[Northumbria]], meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn [[730]]. Cofnodir priodas rhwng [[Oswy|Oswy, brenin Northumbria]] a thywysoges o Rheged tua [[638]], ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma.
 
==Heddiw==
418,588

golygiad