Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dewi Sant"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
B (Wikidata list updated)
Gosododd Dewi gyfundrefn lem iawn yn ei [[Mynachlog|fynachlog]]. Roedd yr oriau gweddïo'n hir, bara a dŵr oedd y bwyd arferol, a'r gwaith yn galed. Rhaid oedd ymrwymo i dlodi hefyd, ond yr oedd pregethu'r [[efengyl]] i'r [[Paganiaeth|paganiaid]] yn holl bwysig. Oherwydd ei ffordd o fyw adwaenir Dewi fel "Dewi Ddyfrwr" (Aquaticus), yn ôl un awdur o'r [[9g]].
 
Ymhlith y traddodiadau niferus am y sant, dywedir iddo gwrdd â [[Sant Padrig]] ar [[Ynys Dewi]], ar arfordir [[Sir Benfro]] ger Tyddewi. Traddodiad arall yw i'r tir godi pan yn pregethu i dyrfa enfawr yn [[Llanddewi Brefi]] gan nad oedd y dorf yn gallu ei weld na'i glywed ac i golomen eistedd ar ei ysgwydd. Yn ôl [[Rhigyfarch]] a llawysgrifau [[Gwyddeleg|Gwyddelig]] o'r [[9g]], bu farw Dewi ar y cyntaf o Fawrth - yn y flwyddyn 589<ref name="ReferenceA"/> - a dyma'r dyddiad y dethlir [[Dydd Gŵyl Dewi|Gŵyl Ddewi]] bob blwyddyn.
 
==Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Dewi==
420,642

golygiad