Oxford Dictionary of National Biography: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Llinell 1:
{{teitl italig}}
Bywgraffiadur a gyhoeddir gan [[Gwasg Prifysgol Rhydychen|Wasg Prifysgol Rhydychen]] yw'r '''''Oxford Dictionary of National Biography'''''. Mae'n cynnwys bywgraffiadau o bobl o [[Ynysoedd Prydain]], o'r amseroedd cynharaf hyd at y gorffennol diweddar. Mae'n olynydd i'r '''''Dictionary of National Biography''''', a gyhoeddwyd mewn 63 cyfrol rhwng 1885 a 1900. Syr Leslie Stephen, tad [[Virginia Woolf]], oedd golygydd cyntaf y ''DNB''. Cyhoeddwyd atodiadau i'r bywgraffiadur yn ysbeidiol rhwng 1901 a 1996 er mwyn cynnwys marwolaethau diweddar, ond ni wnaed ymdrech i ddiwygio'r gwaith cyfan, a oedd yn cynnwys nifer o destunau Fictoriaidd, nes 1992. Yna fe gychwynnodd gwaith ar fersiwn newydd â'r golygydd Colin Matthew wrth y llyw.<ref>{{dyf gwe|iaith=en|url=http://global.oup.com/oxforddnb/info/print/intro/intro1/|teitl=Introduction; History of the DNB; Plans for a new DNB|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=17 Tachwedd 2014}}</ref> Cyhoeddwyd hyn, mewn print ac ar lein, ar 23 Medi 2004.
 
Cynyddwyd nifer y bywgraffiadau o 30,941 yn y ''DNB'' gwreiddiol i 54,992 yng nghyhoeddiad 2004 o'r ''ODNB'', a nifer yr awduron o 653 i 12,550. 60 cyfrol sydd gan fersiwn print yr ''ODNB''; yn wahanol i arfer yr hen ''DNB'', cyhoeddwyd y rhain i gyd ar y cyd.<ref>{{dyf cylch|cyntaf=Nicolas|olaf=Barker|teitl=The biographists’ tales|siwrnal=The Times Literary Supplement|rhifyn=5306|tud=5–7|dyddiad=10 Rhagfyr 2004}}</ref> Caiff y fersiwn ar-lein ei ddiwygio tair gwaith bob blwyddyn.<ref>{{dyf gwe|iaith=en|url=http://global.oup.com/oxforddnb/info/|teitl=About the DNB|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=17 Tachwedd 2014}}</ref>