Llyfrau'r Dryw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Tŷ cyhoeddi Cymraeg a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg o'r 1940au hyd y 1970au oedd '''Llyfrau'r Dryw'''. Sefydlwyd Llyfrau'r D...
 
llun
Llinell 1:
Tŷ cyhoeddi [[Cymraeg]] a fu'n rhan ganolog o fyd cyhoeddi [[llenyddiaeth Gymraeg|llyfrau Cymraeg]] o'r [[1940au]] hyd y [[1970au]] oedd '''Llyfrau'r Dryw'''.
 
Sefydlwyd Llyfrau'r Dryw yn [[Llandybie]] yn [[1940]] gan y llenor [[Aneirin Talfan Davies]] a'i frawd [[Alun Talfan Davies]]. Cyfres o lyfrau bach [[llyfr clawr papur|clawr papur]] yn y Gymraeg ar bynciau amrywiol oedd man cychwyn y cyhoeddwyr. Eu bwriad oedd cyflenwi llyfrau clawr papur rhad i'r [[gwerin|werin]] gan awduron safonol. Ymhlith yr awduron hynny oedd [[Edward Tegla Davies]], [[Kate Bosse-Griffiths]], [[Sarnicol]], [[R. T. Jenkins]], [[William Ambrose Bebb]], [[T. Gwynn Jones]], [[Thomas Jones]], [[Ifor Williams]], [[Alwyn D. Rees]] ac [[E. Morgan Humphreys]]. Straeon ac ysgrifau ar bynciau amrywiol a geid yn y rhan fwyaf o'r cyfrolau yn y gyfres, gydag ambell eithriad fel casgliad o [[hwiangerdd]]i Cymraeg gan [[Eluned Bebb]]. Chwareai'r llyfrau poblogaidd hyn ran bwysig yn adfywio'r farchnad llyfrau Cymraeg yn y 1950au, pan wynebai argyfwng oherwydd diffyg deunydd darllen poblogaidd.
 
Parhaodd Llyfrau'r Dryw fel tŷ cyhoeddi ar ôl i'r gyfres clawr papur ddod i ben yn [[1952]]. Mae cyhoeddiadau Llyfrau'r Dryw yn y [[1950au]] a'r [[1960au]] yn cynnwys y gyfres uchelgeisiol ''[[Crwydro Cymru]]'', sy'n cynnwys cyfrolau o safon llenyddol uchel am siroedd a broydd Cymru, a'r cylchgronau arloesol ''[[Barn (cylchgrawn)]]'', yn Gymraeg, a ''Poetry Wales'' yn Saesneg. Lleihaodd cynnyrch y wasg yn y [[1970au]] a daeth yn rhan o Gwmni [[Christopher Davies]] ([[Abertawe]]), brawd Aneirin Talfan Davies.
 
==Cyfres ''Llyfrau'r Dryw''==
[[Delwedd:Tegla_Gyda'r_Glannau.JPG|200px|bawd|Clawr '''Gyda'r Glannau''', nofel gan [[E. Tegla Davies]] (1941), y bumed gyfrol yn y gyfres]]
Cyhoeddwyd 44 o gyfrolau yn y gyfres clawr papur. Dyma nhw yn nhrefn eu cyhoeddi:
#''Deg Pregeth'' (amryw)
#''Catiau Cwta'', [[Sarnicol]]