Bando: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Arferid ei chwarae ar feysydd gwastad, weithiau ar draethau, rhwng dau dîm o hyd at hanner cant o chwaraewyr yr un. Fel chwaraeon gwerinol eraill, nid oedd rheolau pendant ar wahân i'r nod o yrru pêl i gôl ar y naill pen a'r llall o'r maes chwarae, a oedd weithiau'n eang iawn. Defnyddiai'r chwaraewyr pren wedi'i dorri'n arbennig ar gyfer y chwarae gyda math o flaen crwca: dyma'r '''bando'''.
 
Cyfeiria [[John Elias]] (a ystyriai ei fod yn chwarae anfoesol) a [[Lewis Morris]] at chawarae bando yng ngogledd Cymru, a chofiai [[David Lloyd George]] am chwarae bando ym mhlwyf [[Llanystumdwy]], [[Eifionydd]].
 
Ond ceir y dystiolaeth orau o fro [[Morgannwg]] yn y de. Yno yr oedd plwyfi a phentrefi cyfagos yn cystadlu â'i gilydd a thyrrai rhai miloedd o bobl i weld y chwarae weithiau, yn arbennig ar arfordir de Bro Morgannwg. Cyfeiria un tyst at chwarae bando ar y twyn ym mis Ebrill [[1777]]. Dywedai fod dynion, merched a phlant yn mynd yno. Roedd gan pob chwaraewr tri bando gan eu bod yn torri'n aml. Dywed [[Iolo Morganwg]] ei fod yn arfer gwneud prennau bando o brennau [[onnen|onn]] ac [[ywen|yw]] irwydd, pan yn fachgen yn ardal [[Trefflemin]] a'u gwerthu i'r chwaraewyr am rwng 3c a 6c yr un. Parhaodd chwarae bando yn y Fro hyd chwarter olaf y 19eg ganrif: ceir disgrifiad cofiadwy yn y gyfrol ''Hanes Siencyn Penhydd'' (1850) gan [[Edward Mathews]], [[Ewenni]].