Ras yr Iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Trefniant: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B clean up
Llinell 1:
Ras hwyl gyfnewid er lles yr iaith Gymraeg yw '''Ras yr Iaith'''. Seilir hi ar rasys iaith eraill yn [[ar Redadeg]] ([[Llydaw]]), [[Korrika]] ([[Gwlad y Basg]]) a'r [[an Rith]] ([[Iwerddon]]). Trefnir y Ras gan wirfoddolwyr lleol o dan arweiniad Cered, Menter Iaith Ceredigion. Mae unrhyw elw a wneir o'r arian a godir ar fudiadau a busnesau sy'n noddi 1 km yn cael ei fuddsoddi ar ffurf grantiau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg o fewn ardal y Ras.
 
 
==Trefniant==
Y bwriad oedd cynnal y ras gyntaf ym mis Medi 2013, ond bu'n rhaid gohirio yn dilyn cyfarfod rhwng y trefnwyr ac awdurodau’r priffyrdd a’r heddlu<ref>[http://www.tivysideadvertiser.co.uk/news/10648318.Ras_yr_Iaith_postponed/ Ras yr Iaith postponed] Tivyside 2.9.2013</ref> Cynhaliwyd Ras yr Iaith am y tro cyntaf yn 2014. Yn wahanol i rasys y gwledydd eraill dim ond o fewn trefi y bydd Ras yr Iaith yn rhedeg. Yn wahanol hefyd i Wlad y Basg a Llydaw nid yw'n rhedeg yn ddi-dor, ddydd a nos. Gweinyddir Ras yr Iaith gan Rhedadeg Cyf a sefydlwyd gan Siôn Jobbins. Mae grwpiau, busnesau, cynghorau cymuned, ysgolion neu unigolion yn talu £50 i noddi a rhedeg 1km1&nbsp;km. Codir arian hefyd gan noddwyr masnachol.
 
[[Delwedd:Ras yr Iaith 2014 Castellnewydd Emlyn.jpg|bawd|300px|Ras yr Iaith 2014 yn mynd drwy [[Castellnewydd Emlyn|Gastellnewydd Emlyn]].]]
 
==Ras 2014==
Dechreuodd Ras 2014 yn Senedd-dy Owain Glyndŵr ym [[Machynlleth]] gan orffen yn [[Aberteifi]].<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-mid-wales-27937141 Ras yr Iaith: Language run starts in Machynlleth] Gwefan BBC Wales 20.6.2014</ref> Noddwyd baton Ras 2014 gan fudiad [[Menter Iaith|Mentrau Iaith Cymru]] a'i chreu gan [[Ysgol Penweddig]], Aberystwyth. Bu [[Dewi 'Pws' Morris]] yn arwain gan roi annogaeth a chyngor o Fan y Ras i'r rhedwyr.
 
 
Noddwyd cilomedrau'r Ras gan amrywiaeth eang o noddwyr yn talu £50 gan gynnwys busnesau, ysgolion, capeli, clybiau a chyrff cyhoeddus. O'r arian nawdd a godwyd gan noddwyr a rhedwyr y Ras llwyddwyd i ddosbarthu gwerth £4,000 o grantiau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd lle rhedwyd y Ras.