Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cysylltiadau allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|en}} (3) using AWB
B clean up
Llinell 9:
Yn [[1910]] ymunodd Ffrainc a [[Pencampwriaeth y Pum Gwlad|Phencampwriaeth y Pum Gwlad]]. Fe'u gorfodwyd i adael yn [[1932]] yn dilyn cyhuddiadau o broffesiynoldeb yn y gynghrair Ffrengig a chwarae budr. Yn [[1939]] ail-ymunodd Ffrainc a'r bencampwriaeth.
 
Enillodd Ffrainc y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn [[1959]] ac ers hynny maent fel rheol wedi bod yn un o'r timau cryfaf. Yn niwedd y [[1960au]] a dechrau'r [[1970au]] yr oedd gan Ffrainc dîm arbennig o dda, gyda chwaraewyr fel Jo Maso, Claude Dourthe, Jean-Pierre Lux, Guy Camberabero and Pierre Villepreux. Enillwyd y bencampwriaeth yn [[1967]] a [[1968]] a chafwyd gemau cofiadwy dros ben yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] yn y cyfnod yma.
 
Yn y [[1980au]], enillodd Ffrainc y [[Y Gamp Lawn|Gamp Lawn]] am y tro cyntaf, ac yn [[Cwpan y Byd (rygbi'r undeb)|Ngwpan y Byd]] yn 1987 cawsant fuddugoliaeth dros Awstralia yn y rownd gyn-derfynol o 30 pwynt i 24, ond colli fu eu hanes yn y rownd derfynol yn erbyn y [[Crysau Duon]] o 29 pwynt i 9.
 
Efallai mai eu perfformiad mwyaf cofiadwy oedd yn erbyn y Crysau Duon yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 1999. Enillodd Ffrainc o 43 pwynt i 31 gyda'u cefnwyr yn chwarae rygbi ymosodol gwych. Unwaith eto colli fu eu hanes yn y rownd derfynol, y tro hwn i Awstralia yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] o 35 pwynt i 12.
 
Ers i [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad|Bencampwriaeth y Chwe Gwlad]] ddechrau yn [[2000]], mae Ffrainc wedi cyflawni'r Gamp Lawn ddwywaith, yn ([[2002]] a [[2004]]).
Llinell 73:
==Cysylltiadau allanol==
* [http://www.ffr.fr Fédération Française de Rugby]
 
 
 
 
 
[[Categori:Timau rygbi'r undeb cenedlaethol|Ffrainc]]