Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hathor"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (Bot: Migrating 54 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q133343 (translate me))
B (→‎top: clean up)
 
[[Delwedd:Egypt.Hathor.jpg|200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor]]
Un o [[duwies|dduwiesau]] mwyaf yr [[Hen Aifft]] oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Llaethog]]. Roedd y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn ei huniaethu ag [[Aphrodite]], duwies [[serch]] ym [[mytholeg Roeg]]. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i [[Ra]], brenin y [[duw]]iau, ac yn wraig i [[Horus]], duw'r [[haul]] a brawd y dduwies [[Isis]]; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.
 
Cyfeirir ati hefyd fel y [[buwch|Fuwch]] fawr yn y nefoedd a greodd y byd, gan gynnwys Horus, ac a'i gynhaliai. Mewn canlyniad fe'i portreadir yn aml fel duwies gyda phen buwch neu gyda phen dynol corniog neu glustiau buwch. Roedd hi'n nerthu bodau dynol fel petasent ei phlant, gan roi iddyn nhw o'i llefrith i'w yfed; ceir lluniau ohoni yn bwydo [[brenhinoedd yr Aifft]] o'i bronnau. Roedd ei haddolwyr yn credu mai llaeth yn llifio o'i bronnau oedd y Llwybr Llaethog.
Cysylltir Hathor â [[ffetis]] neilltuol yn ogystal, sef y ''sistrum''. Roedd ei cherddoriaeth yn fod i yrru ysbrydion drwg i ffwrdd. Yn ei theml fawr yn [[Dendera]] mae'r colofnau i gyd ar ffurf ''sistrums''.
 
Hathor oedd prif amddiffynes a noddwr [[merch]]ed yn yr Hen Aifft. Fel duwies serch a hyfrydwch roedd hi'n boblogaidd iawn. Roedd hi'n feistres cerddoriaeth ac adloniant.
 
Ond yn ogystal â gofalu am y Byw gofalai am y Meirw fel "Brenhines y Gorllewin" sy'n croesawu eneidiau. Yn yr agwedd hon roedd hi'n gysylltiedig yn arbennig â [[necropolis]] [[Thebes, Yr Aifft|Thebes]].
417,732

golygiad