Mosaïque FM: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Tunisia → Tiwnisia, Tunis → Tiwnis
B →‎top: clean up
Llinell 14:
Cafodd ei lawnsio ar [[7 Tachwedd]] [[2003]]. Lleolir ei bencadlys yn ninas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia (Immeuble Babel Bloc D, Montplaisir, Tiwnis). Y cyflwynydd cyntaf y cafodd ei lais ei ddarlledu pan agorwyd yr orsaf oedd Nizar Chaari, sydd erbyn heddiw yn gyfrifol am y rhaglenni.
 
Ceir cymysgedd o adloniant ar y radio, yn rhaglenni sgwrs, cerddoriaeth Arabaidd a gorllewinol, chwaraeon a newyddion, ond gyda'r pwyslais ar gerddoriaeth.
 
Cyn lawnsio Mosaïque FM dim ond tua 20 y cant o'r boblogaeth oedd yn gwrando ar y radio yn rheolaidd. Erbyn heddiw, yn ôl ffigyrau MédiaScan, mae tua 50 y cant o bobl Tiwnisia yn gwrando yn rheolaidd gyda 75 y cant yn gwrando'n bennaf neu'n unig ar Mosaïque FM. Mae rhan o'r llwyddiant yn ddiau am fod yr orsaf wedi dewis trafod pynciau dadleuol a fu'n ''tabŵ'' tan yn ddiweddar, gan gynnig fforwm boblogaidd i bobl ifainc a'r dosbarth canol. Diolch i'r gwasanaeth ar-lein mae'r orsaf radio yn boblogaidd gan Arabiaid yn y [[Maghreb]] ac [[Ewrop]] hefyd, a dywedir ei bod ymhlith y gorsafoedd radio iaith Arabeg fwyaf eang ei chynulleidfa yn y byd heddiw.<ref>[http://www.magharebia.com/cocoon/awi/xhtml1/fr/features/awi/reportage/2007/04/13/reportage-01 Jamel Arfaoui, « Radio Mosaïque défie les tabous »]</ref>