Diafol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:GustaveDoreParadiseLostSatanProfile.jpg|bawd|240px|Satan. Llun gan [[Gustave Doré]] ar gyfer argraffiad o ''[[Paradise Lost]]'' gan [[John Milton]].]]
 
Y '''Diafol''' neu'r '''Diawl''' yw'r enw a roddir i fod goruwchnaturiol, a ystyrir gan [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]], [[Islam]] a rhai crefyddau eraill fel ymgorfforiad o ddrygioni. Ystyrir fod y diafol yn temtio bodau dynol, gan geisio'u temtio i bechu.
 
Mewn Cristnogaeth, credir fod [[Duw]] a'r Diafol yn ymryson am eneidiau dynol, gyda'r Diafol yn ceisio eu cipio i [[uffern]].
 
==Geirdarddiad ac enwau eraill==
Llinell 16:
 
===Iddewiaeth===
Er nad yw'r Diafol yn chwarae rôl bwysig mewn [[Iddewiaeth]] o'r brif ffrwd, yn y ''[[Zohar]]'' fe'i gelwir yn [[Samael]], y "duw gwenwynig", yr angel dinistriol, yr ymgnawdoliad o bechod, y Sarff, yr Hen sarff, y Sarff Fawr, yr Ysbryd Drwg, y Temtiwr, a Satan. Fel yn y chwedl ynglŷn â [[Lwsiffer]], roedd Samael yn angel grymus a ddisgynnodd i'r [[ddaear]], ond yn wahanol i [[Lwsiffer]] disgynnodd Samael o'i wirfodd ar gefn sarff, ac ar ôl newid ei ffurf i ffurf sarff, fe demtiodd Efa gyda'r afal. Satan yw ei enw fel sarff, ond "beth bynnag yw ei enw, efe yw'r un a elwir yr ysbryd drygionus".<ref>[http://www.sacred-texts.com/jud/zdm/zdm014.htm Sacred Texts: Zohar, The Kings Palaces]</ref><ref>[http://www.sacred-texts.com/jud/zdm/zdm025.htm Sacred Texts: Zohar, Chapter XVI]</ref>
 
Yn ''[[Llyfr y Jiwbilîs]]'' mae'r Diafol yn ymddangos dan yr enw y Tywysog [[Mastema]], enw sy'n dod o'r [[Hebraeg]] משטמה ''mastemah'' ("casineb"; "gelyniaeth").