Jihad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffynhonnell: Man olygu using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
Mae '''jihad''' yn air [[Arabeg]] sy'n golygu 'dechrau', 'ymrwymiad' neu 'ymdrech' (yn benodol 'ymdrech ar y llwybr i ganfod [[Duw]]'). Mae ganddo le pwysig yn [[diwinyddiaeth|niwinyddiaeth]] ac [[ideoleg]] [[Islam]].
 
Yn y [[Coran]] gwahaniaethir yn eglur rhwng dau fath o ''jihad''. Y lleiaf yw ''al-jihad al-asghar'', sy'n golygu cymryd rhan mewn ymgyrch i amddiffyn y gymuned Foslemaidd (yr [[Umma]]) rhag ymosodiad. Mae'r mwyaf, ''al-jihad'' pur, yn fath o ymarfer ysbrydol neu grefyddol sy'n golygu fod y credinwr yn ymdrechu ynddo'i hun i orchfygu ei bechodau a pheidio mynd ar gyfeilorn; ymdrech i orchyfu'r [[Hunan]] a rhoi Duw yn ei le.