Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Dolenni allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|fa}} (2) using AWB
B clean up
Llinell 2:
[[Delwedd:Gaza criminal Dec 2008 -1.jpg|bawd|290px|Bomio Gaza gan Israel, diwedd Rhagfyr 2008]]
[[Delwedd:Gazastreifen Karte.png|bawd|290px|Llain Gaza]]
Ymgyrch filwrol a ddechreuodd gyda bomio o'r awyr a'r môr ac a ddatblygodd wedyn i fod yn ymosodiad eang ar dir gan fyddin [[Israel]] ar y [[Palesteiniaid]] yn [[Llain Gaza]] oedd '''Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008—2009''', neu'r "Ymgyrch Plwm Bwrw" (''Operation Cast Lead''), fel y'i gelwid yn swyddogol gan lywodraeth Israel. Roedd yr ymgyrch yn rhan o hen ffrwgwd rhwng y ddwy genedl, ffrwgwd a elwir yn [[Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd|Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd]].
 
Yn nyddiau cynnar yr ymosodiad hwn, lladdwyd 4 Israeliad gan rocedi a thuag 9 milwr ar faes y gâd.<ref>http://www.webcitation.org/query?url=http://news.yahoo.com/s/ap/20081229/ap_on_re_mi_ea/ml_israel_palestinians&date=2009-01-02+21:02:01</ref> Yn ôl [[y Cenhedloedd Unedig]], erbyn y 30eg o Ragfyr roedd 320 o Balesteiniaid wedi'u lladd, 62 ohonynt yn blant neu'n ferched, cyn yr ymladd ar dir.<ref>[http://www.webcitation.org/5dT9DVT65 Erthygl gan y BBC ar webcitation.org]</ref> Yn [[Gaza|ninas Gaza]], lladdwyd pum chwaer o'r un teulu gan fomiau awyr Israel ar 30 Rhagfyr 2008.<ref>[http://www.guardian.co.uk/world/2008/dec/30/israel-and-the-palestinians-middle-east The Guardian 30.12.2008]</ref> Erbyn 19 Ionawr 2009 roedd y ffigwr wedi codi i tua 1,315 o Balesteiniaid wedi'u lladd, gan gynnwys dros 300 o blant, a thros 4,500 wedi'u hanafu; roedd 13 Israeliad wedi marw, gyda dim ond 3 yn sifiliaid, a rhai o'r milwyr wedi eu saethu gan eu byddin nhw eu hunain.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/7814490.stm "Children hit hard as Gaza toll rises" (BBC)]</ref>, gyda'r ffigwr yn debyg o fod yn uwch mewn gwirionedd oherwydd anawsterau hel gwybodaeth dan yr amgylchiadau. Cyhuddwyd Israel o ddefnyddio [[ffosfforws gwyn|bomiau ffosfforws gwyn]] yn ogystal â bomiau sy'n cynnwys [[iwraniwm disbyddiedig]]. Yn ogystal dechreuodd [[UNHRC]] ymchwiliad i gyhuddiadau o [[trosedd rhyfel|droseddau rhyfel]] gan Israel.
Llinell 127:
===Digwyddiadau 2008===
[[Delwedd:Gaza criminal Dec 2008 -2.jpg|bawd|250px|Cyrff heddweision a laddwyd yn yr ymosodiadau cyntaf o'r awyr]]
Taniwyd y bomiau cyntaf o awyrennau ar y 27ain o Ragfyr, 2008 am 7.30 amser lleol. Dywed llywodraeth Israel mai ymosod ar dargedi cysylltiedig â [[Hamas]] yr oedd, ond yn ystod y deuddydd cyntaf o saethu (yn ôl [[y Cenhedloedd Unedig]]) lladdwyd dros 320 o Balesteiniaid, llawer ohonynt yn sifiliaid, ac anafwyd 1400.
 
Cyn diwedd y dydd cyntaf, roedd Llu Awyr Israel wedi gollwng 100 tunnell o ffrwydron gydag amcangyfrif o 95% yn cyrraedd eu nod, yn ôl ei Llu Awyr. Dywedodd cynrychiolwyr Israel iddi fomio oddeutu cant o ganolfannau megis gorsafoedd heddlu a charchardai'r Palesteiniaid - a hynny o fewn pum munud.<ref>[http://www.haaretz.com/hasen/spages/1050432.html]; "Most Hamas bases destroyed in 4 minutes" gan Amos Harel.</ref><ref>[http://fr.jpost.com/servlet/Satellite?cid=1230111714969&pagename=JPost/JPArticle/ShowFull] "A year's intel gathering yields 'alpha hits'" gan Yaakov Katz, [[Jerusalem Post]]</ref>
 
Yn ôl llywodraeth Israel, y rheswm am yr ymosodiad yw bod Hamas wedi tanio sawl roced dros y ffin ar ei phobol hi, o Lain Gaza.
Llinell 149:
Parhaodd y bomio o'r awyr i mewn i'r Flwyddyn Newydd ac ar y 3ydd o Ionawr symudodd tanciau a milwyr Israel i fewn i Lain Gaza i gychwyn yr ymosodiad ar dir, ail ran cyrch Israel.
 
'''3ydd-4ydd o Ionawr'''
 
Gwelwyd llawer o fomio o [[awyren]]nau a [[hofrenydd]]ion Israel yn rhagflaenu'r milwyr. Roedd y sianel deledu [[Al Jazeera]]'n cynnwys ffilmiau o blant wedi eu saethu a'u malu gan fomiau Israel; nid oedd dim o'r lluniau hyn i'w gweld ar y [[BBC]], [[S4C]] na [[Sky News]]. Yn ôl adroddiadau gan [[Al Jazeera]] a lluniau'n fyw o Gaza gan [[Press TV]] (yr unig rwydwaith gyda gohebwyr a chriw ffilmio yn Ninas Gaza ei hun), defnyddiodd yr Israeliaid [[bom clwstwr|fomiau clwstwr]] ar ganol y ddinas. Cyrhaeddodd yr ymosodiad ei anterth yn oriau mân y bore ar y 4ydd o Ionawr, gyda taflegrau a bomiau'n disgyn ar y ddinas yn ddibaid bron. Torwyd cysylltiad rhwng y ddinas a de Llain Gaza gan fyddin Israel. Bu'r ymladd yn arbennig o ffyrnig ar ymylon gogleddol Dinas Gaza, yng nghyffiniau dinasoedd [[Jabaliya]] a [[Beit Lahiya]]. Ar y 4ydd o Ionawr cafwyd adroddiadau fod miloedd o bobl o wersyll ffoaduriad Jabaliya a threfi a phentrefi eraill i'r gogledd o ddinas Gaza yn ffoi ar draed i ganol y ddinas i geisio lloches.
 
'''5ed o Ionawr'''
 
Credir fod cyflenwadau bwyd a dŵr glân yn rhedeg allan, a moddion ac angenrheidiau meddygol yn brin neu wedi rhedeg allan gyda'r ychydig ysbytai, yn cynnwys [[Ysbyty Al-Shifa]], prif ysbyty Gaza, yn orlawn. Erbyn y 5ed o Ionawr roedd y cyflenwad trydan wedi darfod yn gyfangwbl bron ac roedd yr ysbytai yn dibynnu ar ''generators'', ond gyda thanwydd yn rhedeg allan hefyd rhybuddwyd fod nifer o'r dros 2,700 a anafwyd mewn perygl o farw. Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion [[iwraniwm]] diraddedig yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau [[DIME]] (''Dense Inert Metal Explosive''), sy'n achosi cancr a [[liwcemia]] etifeddol yn y bobol hynny sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd. Yn ogystal, cadarnheuwyd gan wefan ''Times Online'' fod yr Israeliaid yn defnyddio sieliau [[ffosfforws gwyn]] yn yr ymosodiadau ar Lain Gaza, yn cynnwys dinas Gaza ei hun, arfau a ddiffinir fel [[arf gemegol|arfau cemegol]].<ref name="presstv.ir">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80720&sectionid=351020202 "White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009]</ref>
 
'''6ed o Ionawr'''
 
Ar 11eg ddiwrnod y rhyfel, ymosododd colofn o danciau Israelaidd gyda chefnogaeth hofrenyddion arfog ar ardal [[Khan Yunis]].
Yn ôl [[Agence France-Presse|AFP]], aeth y tanciau i mewn gyda'r wawr. Bu ymladd ffyrnig rhwng y milwyr Israeliaid a rhyfelwyr gwrthsefyll Hamas gyda'r brwydro'n drymaf yn nhref [[Abasan al-Kabera]], un o faesdrefi Khan Yunis, i'r dwyrain o'r ddinas. Lladdwyd rhai sifiliaid yn Khan Yunis ei hun wrth i fomiau disgyn.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80767&sectionid=351020202 'Israeli tanks enter Khan Yunis' 05.01.2009] [[Press TV]].</ref> Yn y prynhawn ar yr un diwrnod, adroddwyd fod dwy o ysgolion y [[Cenhedloedd Unedig]] yn Gaza a oedd yn cael eu defnyddio fel llochesi i ffoaduriaid wedi cael eu taro gan fyddin Israel. Lladdwyd tri yn ninas Gaza ond roedd y difrod mwyaf yn ninas [[Jabaliya]] lle lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran [[UNRWA]] fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgolion hyn a bod eu lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.<ref name="english.aljazeera.net">[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009169564177230.html "Scores killed as Gaza school hit" 05.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
 
'''7fed o Ionawr'''
 
Parhaodd yr ymladd gyda Hamas yn honni eu bod wedi dinistrio un o danciau brwydro mawr yr Israeliaid, ond cafwyd cadoediad byr a barchwyd gan y ddwy ochr am dair awr ar ddechrau'r pnawn i ganiatau dod â chyflenwadau dyngarol i mewn. Ond cwynodd [[UNRWA]], sy'n gofalu am ffoaduriaid Palesteinaidd, nad oedd hynny'n rhoi digon o amser o gwbl. Dyna hefyd oedd ymateb Muhammad Nazzal, aelod o ''bolitburo'' Hamas: dywedodd ar [[Al Jazeera]] "dydy tair awr ddim yn ddigon i alluogi pobl i symud a chwilio am gyflenwadau".<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80995&sectionid=351020202 "Israel 3h lull aims to appease world fury?"] [[Press TV]].</ref> Gyda'r nos cafodd dinas [[Rafah]] a rhannau eraill o dde Llain Gaza ei bomio'n drwm gan lluoedd Israel. Yn gynharach, yn ystod y cadoediad dros dro, roedd awyrennau Israelaidd wedi disgyn miloedd o bamffledi yn rhybuddio trigolion Rafah i adael eu cartrefi.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81119&sectionid=351020202 "Israeli warplanes pounding Rafah"] [[Press TV]].</ref>
 
'''8fed o Ionawr'''
 
Yn oriau mân y bore ymosododd rhai dwsinau o danciau ar dde Llain Gaza gan symud i gyfeiriad [[Khan Yunis]]. Bu bomio trwm dros nos gan awerynnau Israel ar [[Rafah]] a thros y llain i gyd: 60 cyrch awyr i gyd, y mwyaf mewn un noson ers dechrau'r rhyfel. Saethwyd 4 roced o dde [[Libanus]] i Israel yn y bore a saethodd Israel 5 roced yn ôl yn nes ymlaen.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81162&sectionid=351020202 "Israel fires five rockets into Lebanon" 08.01.2009] [[Press TV]].</ref> Cafwyd cadoediad am 3 awr eto, ond bu tanio ysbeidiol er hynny: cwynodd [[UNRWA]] fod milwyr Israel wedi saethu ar un o'i gonfois cymorth dyngarol yn ystod y "cadoediad", gan ladd un o'i weithwyr, er bod y tryciau yn hedfan baner y CU a bod UNRWA wedi rhoi manylion llawn am daith y confoi i fyddin Israel o flaen llaw. Cyhoeddodd yr asiantaeth nad oedd ganddynt ddewis dan yr amgylchiadau ond rhoi'r gorau ar geisio mynd â chyflenwadau i mewn "oherywdd yr ymosodiadau cynyddol dreisgar gan Israel yn erbyn ei eiddo a'i staff".<ref name="ReferenceA">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81222&sectionid=351020202 "Israel attacks UN convoy amid ceasefire" 08.01.2009] [[Press TV]].</ref><ref name="ReferenceB">[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009181482839688.html "UN halts Gaza aid after convoy hit" 08.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr, cafwyd hyd i gyrff tua hanner cant o bobl, sifiliaid yn bennaf, a laddwyd dros y dyddiau diwethaf a chyhoeddwyd fod 763 o Balesteiniaid wedi'u lladd a 3,100 wedi'u hanafu erbyn hynny.<ref name="ReferenceA"/>
 
'''9fed o Ionawr'''
 
Er gwaethaf pasio penderfyniad brys gan [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] yn galw am gadoediad<ref name="ReferenceC">[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81378&sectionid=3510304 Testun llawn Penderfyniad 1860 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]</ref>, parhau wnaeth yr ymladd gyda llywodraeth Israel yn cadarnhau yn swyddogl fod trydedd ran yr "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn dechrau. Dros nos a thrwy'r bore, wrth i'r CU gwrdd yn [[Efrog Newydd]], cafwyd o leiaf hanner cant o ymosodiadau o'r awyr ar ddinas Gaza, [[Rafah]] a lleoedd eraill. Yn y prynhawn roedd brwydro ffyrnig yn ardal [[Beit Lahiya]] a [[Jabaliya]]. Ers dechrau'r rhyfel, [[Press TV]] a'r sianel Arabeg rhyngwladol [[Al-Alam]] oedd yr unig rai gyda phresenoldeb yn Gaza ei hun (roedd gan [[Al-Jazeera]] a'r [[BBC]] newyddiadurwyr lleol yn adrodd ar eu rhan hefyd). Roedd y newyddiadurwyr rhyngwladol hyn yn defnyddio adeilad yng nghanol dinas [[Gaza]] ac wedi rhoi manylion llawn ei leoliad i'r awdurdodau [[Israel]]aidd a'r [[Cenhedloedd Unedig]] er mwyn diogelwch. Roedd y staff wedi cadw'r golau ymlaen ar lawr uchaf yr adeilad trwy gydol y rhyfel hefyd, er mwyn ei ddiogelu. Er hynny, tua 1700 UTC ar y 9fed o Ionawr 2009 trawyd yr adeilad gan roced Israelaidd gan anafu dau o'r staff a difrodi rhan o'r offer darlledu. Doedd dim bomio arall yn y gymdogaeth a chyhuddodd Press TV yr Israeliaid o ymosod yn fwriadol ar y newyddiadurwyr, yn groes i [[cyfraith ryngwladol|gyfraith ryngwladol]]. Drwgdybiwyd fod yr ymosodiad yn ymgais i rwystro'r unig ffynhonnell lluniau byw o Gaza rhag darlledu ar y diwrnod y cyhoeddodd llywodraeth Israel fod trydedd ran "Ymgyrch Plwm Bwrw" yn cychwyn a'r Israeliaid ar fin ceiso anfon eu milwyr i mewn i'r ddinas ei hun.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81373&sectionid=351020202 "Israel targets Press TV station in Gaza" 09.01.2009] Press TV.</ref>
 
'''10fed o Ionawr'''
 
Parhaodd ymgyrch bomio Israel dros nos gydag o leiaf 40 o gyrchoedd awyr a saethu gan danciau. Bu ymladd ysbeidiol hefyd yn ystod y cadoediad 3 awr ganol dydd yn enwedig yn [[Jabaliya]], [[Beit Lahiya]] ac ardal Zeitoun ar ymyl dinas Gaza. Ganol y pnawn gollyngodd awyrennau'r Israeliaid filoedd o bamffledi ar ddinas Gaza yn rhybuddio pobl i aros yn eu cartrefi a pheidio gwneud unrhyw beth i gynorthwyo milwyr Palesteinaidd. Gollyngwyd nifer o fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar gyrion y ddinas ac ymledodd cymylau tocsig mawr dros y maesdrefi gan beryglu iechyd y trigolion. Yn Efrog Newydd roedd [[Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig]] ([[UNHRC]]) yn cwrdd i drafod cyhuddiad gan Navi Pillay, Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol y CU, fod yr [[IDF]] ac Israel yn euog o gyflawni [[trosedd rhyfel]] trwy ladd tua 40 o sifiliaid, yn ferched a phlant, yn fwriadol mewn tŷ yn Zeitoun ar ôl gorchymyn iddynt fynd yno; gadawyd y goroeswyr gyda chyrff y meirw am bedwar diwrnod heb fwyd na diod.<ref name="unhchr.ch">[http://www.unhchr.ch/huricane/huricane.nsf/view01/8E8BAE03D7CDF9E8C1257539006C5F6B?opendocument Y cyhuddiadau o drosedd rhyfel yn erbyn Israel] Gwefan [[UNHRC]].</ref> Gyda'r nos dechreuodd ymladd ffyrnig ar gyrion dinas Gaza a mannau eraill.
 
'''11eg o Ionawr'''
 
Adroddwyd fod awyrennau Israelaidd wedi bomio ar hyd y ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft gan anafu pedwar ar yr ochr Eifftaidd. Pwrpas y bomio, yn ôl cynrychiolydd Israel oedd dileu'r twneli rhwng y Llain a'r Aifft. I'r dwyrain o [[Khan Yunis]] ac [[Abasan]] bu ymladd trwm yn ystod y dydd. Bregus iawn oedd y cadoediad canol dydd. Yn y pnawn cyhoeddodd yr [[IDF]] fod miloedd o filwyr wrth gefn wedi cael eu hanfon i mewn. Ymosododd llongau rhyfel Israel ar orllewin dinas Gaza.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81717&sectionid=351020202 "Israel intensifies naval attacks on Gaza" 11.01.2009] [[Press TV]].</ref> Erbyn hanner nos roedd ymladd ffyrnig - y trymaf ers i'r rhyfel ddechrau - yn digwydd ym maesdrefi gogleddol a dwyreiniol dinas [[Gaza]]. Mae Zeitoun, yn nwyrain dinas Gaza, yn ardal gyda dwysedd uchel o bobl ac yno yr oedd yr ymladd yn drymaf. Dywedodd adain filwrol [[Hamas]] eu bont yn brwydro yn ôl ac yn atal yr ymosodiad. Yn ôl meddygon yn Gaza, lladdwyd 38 o bobl, gan ddod â'r cyfanswm i tua 900 (276 yn blant) a nifer yr anafiedig i tua 4,300.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81838&sectionid=351020202 "Israelis facing strong Palestinian resistance" 11.01.2009] [[Press TV]].</ref> Yn gynharach yn y dydd cyhoeddodd [[Ehud Olmert]], Prif Weinidog Israel, "y byddai'r ymgyrch yn parhau."<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009111183616428314.html "Israel sends reservists into Gaza" 11.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Ychwanegodd fod prif nôd Israel yn yr ymgyrch fwy neu lai wedi'i gyrraedd.<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle_east/7822786.stm BBC News]</ref>
 
'''12fed o Ionawr'''
 
Bomiwyd sawl rhan o'r Llain yn ystod y nos, yn cynnwys [[Rafah]]. Unwaith eto cafwyd brwydro ffyrnig ym maesdrefi dinas [[Gaza]] ond tynnod yr [[IDF]] yn ôl cyn y wawr. Bu ymladd yn ystod y dydd hefyd a saethodd y Palestiniaid 17 o rocedi at dde Israel: tarawyd [[Sderot]] [[Bethsheba]] ac [[Ashkelon]]. Gyda'r nos cafwyd ymosodiadau gan Israel o'r môr a'r awyr a chyrchoedd ar ddinas Gaza gan danciau a milwyr o dri chyfeiriad a oedd yn symud tuag at ganol y ddinas. Trawyd Gaza gan nifer o fomiau [[ffosfforws gwyn]]. Bu ymladd trwm yng nghyffiniau [[Khan Yunis]] a'r de hefyd.
 
'''13eg o Ionawr'''
 
Yn oriau mân y bore dwyshaodd yr ymladd o gwmpas dinas Gaza ac yn y maesdrefi i'r de, y gogledd a'r dwyrain o'r ddinas. Gollyngwyd nifer o fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar y maesdrefi. Parhaodd y brwydro ar raddfa lai yn ystod y dydd, ac adroddwyd fod yr [[IDF]] wedi llwyddo i symud rhai cannoedd o fedrau i mewn i'r maesdrefi.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=82053&sectionid=351020202 "Intense fighting underway in Gaza City" 13.01.2009] [[Press TV]].</ref> Gyda [[Ban Ki-Moon]], Ysgrifennydd Cyffredinol y CU, yn ymweld â'r Dwyrain Canol ar y 14eg, dwyedodd [[Ehud Barak]], Gweinidog Amddiffyn Israel, fod yr ymladd am barhau gan nad oedd yr IDF wedi gorffen ei gwaith eto.<ref>[http://fr.jpost.com/servlet/Satellite?cid=1231774442641&pagename=JPost/JPArticle/ShowFull "Barak: Gaza operation to continue" 13.01.2009] ''[[The Jerusalem Post]]''.</ref>
 
'''14eg o Ionawr'''
 
Bu llai o gyrchoedd gan awyrennau dros nos ond bu ymladd ffyrnig eto ym maesdrefi dinas Gaza wrth i'r IDF geisio gwthio ymhellach i mewn i'r ddinas. Cyhoeddodd [[John Ging]], pennaeth [[UNRWA]] yn Llain Gaza, fod "hanner miliwn o bobl heb ddŵr" yno a'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr peryglus. Roedd dros 1,000 o bobl wedi'u lladd.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=82284&sectionid=351020202 "Gaza death toll passes 1000 mark" 14.01.2009] [[Press TV]].</ref> Saethwyd 3 roced gan rywrai o dde [[Libanus]] i Israel ac yn ôl y papur newydd Libanaidd ''[[As-Safir]]'', saethodd Israel 7 roced i dde Libanus mewn ymateb: gyda nos roedd Israel yn gosod tanciau, milwyr a hofrenyddion ychwanegol ar hyd y ffin ac roedd byddin Libanus a milisia [[Hezbollah]] ar "alert coch".<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=82287&sectionid=351020202 "Israeli army masses along Lebanon border" 14.01.2009] [[Press TV]], yn dyfynny ''[[As-Safir]]''.</ref> Erbyn hanner nos yn ninas Gaza ei hun roedd bomiau o danciau a hofrenyddion yn disgyn ar draws y ddinas gyfan a thrawyd nifer o dai ac ardaloedd preswyl.
 
'''15fed o Ionawr'''
 
Cafwyd yr hyn a ddisgrifwyd fel "y diwrnod mwyaf gwaedlyd hyd yn hyn" ar y 15fed gyda nifer o ymosodiadau am tua 18 awr ar draws Llain Gaza o gyffiniau [[Rafah]] yn y de i ddinas [[Gaza]] yn y gogledd. Yn ninas Gaza cyrhaeddodd tanciau Israel o fewn 1.5&nbsp;km i ganol y ddinas. Trawyd tri ysbyty yn cynnwys Ysbyty Al-Quds: llwyddodd y staff i gael y 500 o gleifion yno allan ond aeth yr adeilad ar dân am oriau.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009115153549143408.html "Israel shells hosptitals and UN HQ" 15.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Trawyd adeilad a oedd yn ganolfan i newyddiadurwyr, yn cynnwys y BBC. Trawyd pencadlys [[UNRWA]] gan fomiau Israelaidd ac aeth y warws - a oedd yn llawn o stociau bwyd a meddyginiaethau yn aros i gael eu dosbarthu - ar dân; ymledodd y tân i storfa tanwydd UNRWA a chododd cwmwl o fwg du dros y ddinas. Roedd tua 700 o bobl yn cysgodi yno ond llwyddodd pawb i ddianc. Yn ôl [[John Ging]], pennaeth UNRWA, defnyddiodd yr Israeliaid bomiau [[ffosfforws gwyn]].<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=82474&sectionid=351020202 "Israel used phosphorous on UN center" 15.01.2009] [[Press TV]].</ref><ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009115153549143408.html "Israel shells hosptitals and UN HQ" 15.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Galwodd [[Ban Ki-moon]] yr ymosodiad yn "''outrage''".<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=82476&sectionid=351020202 "D'Escoto: Israel breaching int'l law in Gaza" 15.01.2009] [[Press TV]].</ref> Parhaodd yr ymladd gyda'r nos. Amcangyfrifwyd fod o leiaf 90 o bobl wedi'u lladd, yn cynnwys Saeed Siyam, un o weinidogion y llywodraeth Hamas, a channoedd wedi'u hanafu. Saethwyd tua 30 o rocedi o Gaza i Israel; chafodd neb ei ladd. Tri roced a daniwyd heddiw tuag at Israel.
 
'''16eg o Ionawr'''
 
Diwrnod 21 y gyflafan. Ar ôl ymladd trwm ym maesdrefi de a dwyrain dinas Gaza dros nos, tynnodd tanciau a milwyr Israel allan i gyrion y ddinas gyda'r wawr ar ôl wynebu gwrthsafiad ffyrnig gan ryfelwyr Palesteinaidd. Cafwyd diwrnod "cymharol dawel" ond lladdwyd tua 40 o bobl gan fomiau yn Llain Gaza er hynny gan ddod â'r cyfanswm i tua 1,160 wedi'u lladd a rhwng 4,500 a 5,300 wedi'u hanafu. Gyda'r nos disgynodd bomiau ar rannau o ddinas Gaza a bu ymladd trwm ar y cwr gogleddol. Lladdwyd gwraig a'i phum plentyn gan fom yn [[Jabaliya]]. Ym maesdref Tar al-Hawa, ar gyrion deheuol dinas Gaza, tynwyd cyrff tua 20 o bobl a laddwyd y noson flaenorol o adfeilion eu tai. Parhaodd y symudiadau diplomyddol yn [[Washington]], [[Cairo]] a [[Doha]] a chynyddodd y pwysau ar Israel i atal yr ymosodiad (gweler isod).<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009116181426127417.html "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
 
'''17eg o Ionawr'''
 
Bu rhan o'r nos yn gymharol dawel ond bomiodd tanciau a llongau Israel gyrion dinas Gaza yn drwm yn oriau mân y bore. Parhaodd yr ymladd ar draws Llain Gaza yn ystod y dydd. Am chwarter i saith amser lleol, saethodd tanciau Israelaidd fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar un o ysgolion [[UNRWA]] yn [[Beit Lahiya]], fymryn i'r gogledd o Gaza ei hun. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd [[John Ging]], pennaeth UNRWA, am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel troseddau rhyfel posibl.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091177657498163.html "Israel shells UN school in Gaza" 17.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref> Cyhoeddodd Israel gadoediad unochrog i ddechrau am hanner nos (0000 [[UTC]]) ond parhaodd yr ymladd ac erbyn hanner nos roedd brwydro ysbeidiol yn parhau gyda bomiau ffosfforws yn taro dinas Gaza. Saethwyd 8 roced o Lain Gaza i dde Israel yn ystod y dydd. Roedd Hamas, sydd wedi cael ei anwybyddu gan Israel, yn gwrthod y cadoediad unochrog am fod Israel yn cadw ei byddin yn Llain Gaza ac yn gwrthod codi'r gwarchae.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200911718127624660.html "Olmert announces Gaza ceasefire" 17.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
Llinell 239:
[[Delwedd:Melb- Rally against the 2008-2009 Israeli strike on Gaza, Jan 2009.JPG|230px|bawd|Rali protest er mwyn y Palesteiniaid ym [[Melbourne]], [[Awstralia]], Ionawr 2009, un o nifer o brotestiadau cyffelyb ledled y byd yn erbyn y rhyfel]]
===Ymateb i'r ymgyrch fomio gychwynnol===
Cafwyd galwadau gan lawer o wledydd [[y Byd Arabaidd]] o fewn y deuddydd cyntaf: galwodd aelodau o'r [[Cynghrair Arabaidd|Gynghrair Arabaidd]] (sef [[Libya]], [[Syria]], [[Gwlad Iorddonen]], [[Libanus]] ac [[Yemen]]) ar Israel i ymatal, gan gondemnio ei gweithredoedd treisgar. Condemniodd [[Rwsia]], [[Ffrainc]] a [[DU|Phrydain]] y ddwy ochor. Dim ond condemnio [[Hamas]] wnaeth yr [[Unol Daleithiau]]. Galwodd y [[Y Cenhedloedd Unedig]] ar i'r ddwy ochor roi'r gorau iddi.<ref>[http://www.reuters.com/article/newsMaps/idUSTRE4BR0H920081228 "U.N. Security Council calls for end to Gaza violence"] [[Reuters]]</ref>
 
Yn y byd Arabaidd ac Islamaidd, beirniadwyd llywodraethau [[yr Aifft]] a [[Saudi Arabia]] yn hallt am rwystro galw cynhadledd frys o'r Gynghrair Arabaidd i drafod y sefyllfa. Cyhoeddodd [[Twrci]] ei bod am beidio gweithredu fel canolwr yn y drafodaethau heddwch rhwng Israel a [[Syria]] oherwydd y sefyllfa yn Gaza; mae'r trafodaethau wedi eu gohirio am gyfnod amhenodol.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=79854&sectionid=351020204 "'Turkey no longer mediating for Israel" 29 Rhagfyr 2008 [[Press TV]]</ref>
 
Cafwyd nifer o wrthdystiadau ar y stryd yn y Dwyrain Canol, yn enwedig yng Ngwlad Iorddonen, y Lan Orllewinol, Libanus a'r Aifft ond hefyd yn [[Iran]], [[Irac]], [[Twrci]] a'r [[Yemen]]. Yn Ewrop bu sawl protest yn cynnwys rhai yn [[Athen]], [[Caerdydd]]<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7805046.stm BBC Wales: "Welsh protests over Gaza violence"]</ref> a [[Llundain]].
Llinell 263:
Yn fuan ar ôl i'r ymladd ddechrau, aeth [[Nicolas Sarkozy]], Arlywydd Ffrainc, i'r Dwyrain Canol i siarad â rhai o arweinwyr yr ardal er mwyn ceisio trefnu cadoediad. Cafodd drafodaethau yn [[Jeriwsalem]], a [[Damascus]] ac yna aeth i'r Aifft i drafod y sefyllfa gyda [[Hosni Mubarak]], Arlywydd yr Aifft. Ar y 7fed o Ionawr cyhoeddwyd fod Israel ac [[Awdurdod Cenedlaethol Palesteina]] wedi cytuno ar egwyddorion cadoediad a bod Israel am roi ffenestr o 3 awr o gadoediad bob dydd er mwyn i gymorth dyngarol allu mynd i mewn i Lain Gaza: gweithredwyd hyn o 1100 hyd 1400 UTC ar y 7fed. Ond doedd dim sôn am [[Hamas]] yn y cytundeb ac roedd y camrau ymarferol tuag at gael cadoediad parhaol eto i'w gweithio allan.<ref>[http://www.presstv.ir/Detail.aspx?id=81017&sectionid=351020202 "France 'delighted' by reaction to Gaza truce plan" 07.01.2009] [[Press TV]].</ref> Ar yr un diwrnod â chytuno a chadoediad dyddiol dros dro, fodd bynnag, yn ôl AFP cytunodd Cabinet Israel ar ddiwedd y prynhawn i ehangu'r ymosodiad ar Gaza gan sôn am "drydedd ran" yr ymladd a fyddai'n cynnwys anfon rhagor o filwyr Israelaidd yn ddyfnach i mewn i Gaza.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=81097&sectionid=351020202 "Israel OKs Gaza ground assault expansion" 07.01.2009] [[Press TV]] yn dyfynnu [[Agence France-Presse|AFP]].</ref>
 
Yn oriau mân y bore ar y 9fed o Ionawr 2009 pasiodd [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig]] benderfyniad brys yn galw am gadoediad. Roedd Penderfyniad 1860 yn llai grymus o lawer na'r drafftiau cynharaf a roddwyd ger bron y Cyngor gan [[Libya]] ar ran y [[Cynghrair Arabaidd]]. Ataliodd yr [[Unol Daleithiau]], a gynrychiolwyd gan [[Condoleeza Rice]], ei phleidlais.<ref name="ReferenceC"/> Ymateb llywodraeth Israel yn nes ymlaen ar yr un diwrnod oedd cyhoeddi fod y penderfyniad yn "anweithredadwy" a'i bod yn cychwyn trydedd ran yr "Ymgyrch Plwm Bwrw" sy'n golygu anfon ei milwyr yn ddyfnach i mewn i ddinasoedd Llain Gaza.
 
Ar drydydd ffrynt diplomyddol, mae cynrychiolwyr llywodraethau [[Iran]], [[Indonesia]] (y wlad Fwslwmaidd fwyaf yn y byd o ran poblogaeth) a [[Syria]] wedi cynnal trafodaethau â llywodraethau yn yr ardal. Mae [[Qatar]] yn gefnogol i'r symudiad hyn ac mae [[Twrci]] mewn cysylltiad hefyd. Ar gais Qatar, cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig o'r [[Cynghrair Arabaidd]] - gyda rhai gwledydd yn absennol, yn enwedig [[yr Aifft]] a [[Saudi Arabia]] - yn ninas [[Doha]] ar y 16eg o Ionawr. Siaradodd [[Khaled Meshaal]], arweinydd Hamas. Roedd arlywyddion [[Twrci]] ac [[Iran]] yn bresennol hefyd. Cyhoeddodd y gwledydd yn y Cyfarfod fod Israel "yn gyfrifol am droseddau" a'i harweinwyr "yn agored i ateb am droseddau rhyfel".<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/2009116181426127417.html "Israel 'set to halt war on Gaza'" 16.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>