Hebraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Frank-ruehl.png|bawd|Yr wyddor Hebraeg]]
Mae '''Hebraeg''' yn [[iaith]] [[Semitaidd]] a siaredir gan ychydig dros 7 miliwn o bobl yn [[Israel]] a thros y byd. Iaith wreiddiol yr [[ysgrythur]]au [[Iddewiaeth|Iddewig]] ([[Hen Destament]] [[y Beibl]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]]) yw ''Hebraeg Beiblaidd'' (neu ''Glasurol''). Diflanodd Hebraeg fel iaith lafar yn yr ail ganrif OC, ond parhaodd fel iaith ysgrifenedig. Cafodd Hebraeg ei hadfywio fel iaith lafar yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn iaith swyddogol gwladwriaeth fodern Israel yn yr ugeinfed ganrif.
 
Er mai'r mwyaf amlwg ydyw hi, un ymhlith nifer o ieithoedd Iddewig yw Hebraeg. Ymhlith y lleill y mae [[Iddew-Almaeneg]] neu Yiddish-Daitsch a [[Ladino]] (Sbaeneg Iddewig). Cafodd y rhain eu defnyddio gan wahanol gymunedau Iddewig tra bu Hebraeg llafar yn farw, ond crebachu fu eu hanes yn sgil yr adfywiad yn nefnydd yr Hebraeg, gan adael lleiafrifoedd bychain iawn o siaradwyr yr ieithoedd hyn, os o gwbl.
Llinell 6:
Un o wyrthiau ieithyddol yr ugeinfed ganrif oedd adfywiad Hebraeg, na bu'n iaith gyntaf i neb ers canrifoedd. Mae mewnfudwyr i [[Israel]], o [[Ewrop]], [[Unol Daleithiau America]], yr hen [[Undeb Sofietaidd]] ac [[Affrica]], er enghraifft yn cael eu trochi yn yr Hebraeg trwy gyrsiau [[Wlpan]]. Mae llyfr gan [[Norman Berdichevsky]], 'Modern hebrew: The Past Present and Future of a Revitalized Language' yn cyfeirio'n fyr at ddylanwad y mudiad Hebraeg ar y Gymraeg.<ref>[http://www.frontpagemag.com/2014/jamie-glazov/modern-hebrew-the-past-and-future-of-a-revitalized-language/ www.frontpagemag.com;] adalwyd 26 Awst 2014</ref>
 
Ysgrifennir Hebraeg yn ei [[gwyddor Hebraeg|gwyddor]] ei hun, o'r dde i'r chwith. Mae 22 cymeriad yn yr wyddor, pob un yn [[cytsain|gytsain]]. Dynodir [[llafariad|llafariaid]] gan system o nodau, ond fel arfer dim ond mewn cyhoeddiadau i blant a dysgwyr y'u defnyddir.
 
Ymhlith [[cyfieithiadau i'r Gymraeg]] o'r Hebraeg fodern y mae;
* 'Atgofion Haganah' (bywgraffiad o Israel) gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin Gwasg y Brython, Lerpwl. 1972
 
* 'Hanes Teulu fy Nhad' gan Judith Maro, cyfieithwyd gan William Williams, Wytherin [[Taliesin]] cyf 29, t36-46 . Rhagfyr 1974
 
* Cael y Llun yn Iawn. Cerdd gan Amir Or, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith. Taliesin cyf 131. Haf 2007.
 
* "Does dim blodau i'r senorita". (stori fer ) gan Iotam Rewfeni, y cyfieithu gan [[Richard Crowe]] ac Amnon Shapiro. Tu Chwith, cyfrol 2. Haf 1994
 
Llinell 21 ⟶ 18:
 
{{Rhyngwici|code=he}}
 
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}