Agni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 5:
Mae Agni yn un o'r pwysicaf o'r duwiau Vedig hynafol a cheir nifer o [[emyn]]au cysegredig iddo yn y ''[[Rig Veda]]''. Yn yr emynau hynny fe'i portreadir fel duw'r tân a derbyniwr offrymau trwy dân. Mae'r offrymau i Agni yn cael eu trosglwyddo i'r duwiau eraill am ei fod yn negesydd rhwng yr offeiriaid a'r duwiau a rhwng y duwiau eu hunain. Fel ei elfen, erys Agni yn ifanc yn dragwyddol am fod tân yn cael ei gynnau bob dydd (ar yr aelwyd ac yn yr awyr, fel yr Haul).
 
Lleihaodd pwysigrwydd rhai o'r duwiau Vedig eraill gyda threiglad amser, ond mae addoliad Agni yn goroesi yn rhan o ddefodau a chred Hindŵaeth heddiw.
 
Fel un o'r [[deva]]s, mae Agni yn cael ei bortreadu mewn lluniau a cherfluniau gyda dwy neu saith o ddwylaw, dau ben a thair coes. Mae ganddo saith tafod tanllyd i lyfu menyn yr aberth; un o'i enwau yw ''Saptajihva'' ("[gyda] Saith Tafod"). Mae'n marchogaeth hwrdd neu'n gyrru cerbyd a dynnir gan geffylau tanllyd. Ei briodweddau yw bwyall, llusern, gleiniau a gwaywffon danllyd. Mewn delweddau, mae Agni yn dduw o liw coch gyda dau wyneb, a gwallt a llygaid du. Mae saith pelydr goleuni yn deillio o'i gorff.