Rig Veda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
9cfilorux (sgwrs | cyfraniadau)
B pennawd lefel 2
B clean up
Llinell 2:
Casgliad hynafol [[India]]idd o [[emyn]]au [[Veda|Vedig]] yn yr iaith [[Sansgrit]] a gysegrir i'r duwiau (''[[deva]]u'') yw'r '''Rig Veda''' neu '''Rigveda''' ([[Sansgrit]]: ऋग्वेद ''Rigveda'', cyfansoddair o'r gair ''rig'' "mawl, cerdd" a ''veda'' "gwybodaeth"). Fe'i hystyrir yn un o'r pedwar testun sanctaidd canonaidd (''śruti'') yn [[Hindŵaeth]] a adnabyddir fel y [[Veda]]. Hyd heddiw mae rhai o'r cerddi yn cael yn cael eu hadrodd fel [[gweddi|gweddïau]] Hindŵaidd, mewn gwasanaethau crefyddol ac ar achlysuron arbennig, ac felly mae'n cyfrif fel un o'r hynaf o destunau crefyddol y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.
 
Yn ogystal mae'n un o'r testunau hynaf mewn unrhyw [[Ieithoedd Indo-Ewropeaidd|iaith Indo-Ewropeaidd]], er bod arbenigwyr yn anghytuno am ei oed. Mae'r dystiolaeth ieithyddol ac ieithegol yn awgrymu y cafodd y Rig Veda ei gyfansoddi yn ardal y [[Sapta Sindhu]] (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y [[Punjab]] ym [[Pakistan|Mhakistan]] a gogledd-orllewin [[India]], tua 1500–1000 CC (y Cyfnod Vedig Cynnar). Ceir sawl cyfatebiaeth ieithyddol a diwylliannol gyda'r [[Avesta]] [[Iran]]aidd cynnar, cyfatebiaethau sy'n deillio o'r cyfnod Proto-Indo-Iranaidd, a gysylltir gan rai â'r diwylliant [[Andronovo]] o tua 2000 CC. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod cysylltiad rhwng y Rig Veda a [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]] hefyd.
 
== Cynnwys ==
Rhennir y gwaith yn ddeg ''[[mandala]]'' neu adran. Ceir 1017 neu 1028 o emynau, gan ddibynnu ar y casgliad. Mae rhai o'r ''mandalas'' ac emynau hyn yn cael eu priodoli i ddoethion traddodiadol (''[[rishi]]s'') ac eraill yn gysegredig i rai o brif dduwiau'r pantheon Vedig, yn enwedig [[Indra]] sy'n lladd ei wrthwynebydd drygionus [[Vrtra]], [[Agni]] (y tân sanctaidd) a [[Vayu]] neu Vata (y Gwynt). Ceir cryn bwyslais ar ''[[soma]]'' hefyd, yr hylif a phlanhigyn sy'n ganolog i addoliad Vedig. Cyfeirir hefyd at sawl dduw neu dduwies arall fel yr [[Adityas]], [[Mitra-Varuna]], [[Ushas]] (y Wawr), [[Savitri]], [[Vishnu]], [[Rudra]], [[Pushan]], a'r doethwr [[Brihaspati]] neu Brahmanaspati. Duwiolir sawl ffenomen naturiol fel [[Dyaus Pita]] (duw'r Awyr, sy'n cyfateb i [[Zeus|Zeus Pater]] y [[Groeg]]iaid gynt), [[Prithivi]] (Duwies y Ddaear), [[Surya]] (duw'r Haul), Vayu (y gwynt), [[Apas]] (y dyfroedd), [[Parjanya]] (mellt a tharanau), a sawl afon (yn enwedig y ''Sapta Sindhu'' ac [[Afon Sarasvati]]).
 
Ceir cyfeiriadau at ddigwyddiadau a allai fod yn hanesyddol hefyd, yn enwedig mewn cysylltiad â'r ymryson a brwydro rhwng y bobloedd Indo-Ewropeaidd a gyfansoddodd y Vedas (yr Ariannaid Vedig, sy'n perthyn i'r bobloedd [[Indo-Ariaidd]] a'u gelynion, y [[Dasa]] neu Dasyu brodorol.