Bodh Gaya: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Dinas yn [[India]] yw '''Bodh Gaya''' neu '''Bodhgaya''' (hefyd '''Bodh-Gaya'''). Saif yn nhalaith [[Bihar]]. Mae'n enwog fel y man lle cyrhaeddodd [[Gautama Siddhartha]], y [[Bwdha]] hanesyddol, ei [[Goleuedigaeth|Oleuedigaeth]]. Bodh Gaya yw'r bwysicaf o bedair man [[pererindod]] i ddilynwyr [[Bwdiaeth]]; y tair arall yw [[Kushinagar]], [[Lumbini]] a [[Sarnath]]. Roedd ei phoblogaeth yn [[2001]] yn 30,883.
 
Yn ôl y traddodiad Bwdhaidd, daeth y tywysog Gautama Siddhartha yma tua 500 CC, fel mynach yn ceisio gweledigaeth. Eisteddodd dan goeden Bodhi (''Ficus religiosa''; mae'r gair [[Sansgrit]] ''bodhi'' yn golygu 'Goleuedigaeth') yma, ac wedi tri diwrnod a thair noson o fyfyrio, cyrhaeddodd Oleuedigaeth, a'r atebion i'w gwestiynau. Wedi saith wythnos, teithiodd i Sarnath, lle dechreuodd bregethu Bwdhiaeth.
 
Ceir nifer fawr o demlau Bwdhaidd yma, gyda theml yn cynrychioli pob gwlad Fwdhaidd. Y brif deml yw Teml Mahabodhi. Credir i'r deml yma gael ei sefydlu gan yr ymerawdwr [[Asoka]] a ymwelodd â Bodh Gaya ar ôl troi'n Fwdhydd a gadawodd [[arysgrif]] yno. Mae'r adeilad presennol yn ddiweddarach. Mae'n 160 troedfedd o uchder ac mae'n cynnwys cerflun anferth o'r Bwdha wedi'i gildio ag aur. Ceir nifer o ''[[stupa]]s'' o gwmpas y deml wedi'u codi mewn diolch gan bererinion dros y canrifoedd. Yr olion hynaf ym Modh Gaya yw'r rhannau o'r hen glawdd neu ffens, yn bileri carreg cerfiedig, a safai o amgylch y deml wreiddiol.