Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Krishna"

Lleihawyd o 1 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: clean up
No edit summary
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B (→‎top: clean up)
Duw a addolir mewn sawl traddodiad [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] yw '''Krishna''' ([[Sansgrit]]: कृष्ण). Mae'n ffigwr canolog yn addoliad enwadau [[Vaishnaviaeth]]. [[Balarama]] yw ei "frawd hŷn" neu ''[[avatar]]'' cyntaf.
 
Darlunir Krishna fel rheol fel dyn ifanc croen tywyll neu glas, neu fel baban, fel bugail gwartheg ifanc yn canu'r ffliwt, fel yn y [[Bhagavata Purana]], neu fel tywysog ifanc sy'n rhoi cyngor athronyddol, e.e. fel cyfaill [[Arjuna]] yn y ''[[Bhagavad Gita]]'' (rhan o'r ''[[Mahabharata]]''). Ei arf yw disgen ([[Sudarshana Chakra]])ac mae'n marchogaeth [[Garuda]].
 
Ceir nifer o chwedlau am Krishna mewn sawl traddodiad diwinyddol ac ysgol athroniaeth Hindŵaidd. Er bod y manylion yn amrywio yn ôl dysgeidiaeth y traddodiad, mae rhai elfennau yn ganolog. Mae'r rhain yn cynnwys ymgnawdoliad dwyfol (''[[avatar]]''), plentyndod a llencyndod fel bugail gwartheg yng nghanol natur, yn aml yng nghwmni merched hardd, a gyrfa fel rhyfelwr [[arwr]]ol ac athro neu gynghorydd. Mae'n enwog am ei garwriaethau niferus ac mae ganddo bedwar cymar, sef y duwiesau [[Radha]], [[Rukmini]], [[Satyabhama]] a [[Janbavati]].
452,433

golygiad