Ffonograff: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
Llinell 16:
Pa bryd cychwynnwyd recordio caneuon Cymraeg sy'n ansicr iawn. Yr oedd amryw o Recordiau Cymraeg yn y Catalog ym 1902. Mae rhai cantorion a recordiwyd yn gynnar ond ni wyddys dim amdanynt: dyna Festin Davies - yr ydym yn gwybod iddo fod yn Arweinydd yr Imperial Singers, a bu'r côr meibion yma amryw o weithiau yn America.
 
Ond un o'r rhai cyntaf i gael ei recordio oedd y bariton [[David Brazell]] a hynny ar ddechrau'r ganrif. Dechreuodd recordio i'r Phonograph ar y cyntaf a pharhaodd i recordio hyd tua 1930.
 
Recordiwyd, hefyd, Dr. Mary Davies lawer blwyddyn yn ôl; roedd hi'n un o'r artistiaid yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1888|Eisteddfod Wrecsam 1888]]; yr oedd hefyd yn awdurdod ar ganu gwerin. Cymerodd ran flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1906 a chafodd y radd o Ddoethor mewn Cerddoriaeth ym 1916; bu farw ym 1930.
 
Cafwyd dadl fawr ynglŷn ag Eleanor Jones-Hudson a Bessie Jones; rhai yn ceisio dyfalu oedd yna un gantores ynteu dwy. Yn y golofn ''Collectors Corner'' yn ''y Gramophone'' bu'r golygydd mewn gohebiaeth â Bessie Jones cyn iddi farw tua dwy flynedd yn ôl. Clywyd hi'n canu ar y rhaglen [[Rhwng Gŵyl a Gwaith]] - 0 NA BYDDAI’N HAF 0 HYD pan oedd dros ei phedwar ugain oed.