If You Tolerate This Your Children Will Be Next: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
B clean up |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:If You Tolerate This Your Children Will Be Next.jpg|bawd|Clawr yr albwm]]
Sengl gan y band roc Cymreig [[Manic Street Preachers]] yw '''"If You Tolerate This Your Children Will Be Next"'''. Fe'i rhyddhawyd 24 Awst 1998 gan [[Epic Records]] fel sengl cyntaf eu pumed albwm ''[[This Is My Truth Tell Me Yours]]''. Cyrhaeddodd y gân frig y siartiau Prydeinig am un wythnos ym mis Medi 1998.
==Cefndir==
Ysbrydolwyd y gân gan [[Rhyfel Cartref Sbaen|Ryfel Cartref Sbaen]] a delfrydiaeth y Cymry a wirfoddolodd i ymladd ar ochr y [[Brigadau Rhyngwladol]] adain chwith a oedd yn ymladd dros [[Ail Weriniaeth Sbaen]] yn erbyn lluoedd ffasgaidd [[Francisco Franco]]. Daw enw'r gân o boster Gweriniaethol o'r cyfnod a fu'n dangos llun o blentyn a laddwyd gan y lluoedd ffasgaidd gydag wybr yn llawn o awerynnau bomio yn y cefndir a'r rhybudd llwm "os ydych yn goddef hyn, eich plant fydd nesaf" wedi ei ysgrifennu oddi tano.
Ar ben hynny, dylanwadodd Rhyfel Cartref Sbaen ar y gân, a cheir sawl cyfeiriad ato yn y gân. Er enghraifft, priodolir y llinell ''"If I can shoot rabbits / then I can shoot fascists"'' i gyfweliad gan ddyn, flynyddoedd wedi'r ryfel, a wirfoddolodd ar ochr y Gweriniaethwyr.<ref>Cafwyd y dyfyniad hwn yn llyfr [[Hywel Francis]], ''[[Miners Against Fascism]]''</ref>. Gwaith arall yw ''[[Homage to Catalonia]]'' gan [[George Orwell]], sef ei dystiolaeth personol o'r rhyfel. Mae'r linell ''"I've walked Las Ramblas / but not with real intent"'' yn dwyn i gof hanes Orwell o frwydro ar y Ramblas, a'r amryw garfanau'n methu ag ennill tir, a'u temlad o [[brawdoliaeth|frawdgarwch]] cryf a oedd yn drech na realiti anobeithiol y sefyllfa.
{{listen |filename=If you tolerate this your children will be next.ogg |title="If You Tolerate This Your Children Will Be Next" sampl|description=|format=[[Ogg]]}}
|