Bragod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camwy.nlw (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 5:
 
==Maes==
Prif nod Bragod yw perfformio [[cerddoriaeth Gymreig]] a [[Barddoniaeth#Barddoniaeth_GymraegBarddoniaeth Gymraeg|barddoniaeth Gymraeg]] o'r cyfnod cyn c.1600, gan ailgyfuno traddodiadau [[cerdd dafod]] a [[cerdd dant|cherdd dant]]. Yn ogystal â defnyddio cyrchddull hanesyddol i archwilio cerddoriaeth a barddoniaeth y cyfnod, mae Robert Evans wedi datblygu technegau crwth a lyra ar sail ysgrifau hynafol o Gymru ac Ewrop. Daw seiliau iaith gerddorol y grŵp yn bennaf o'r gerddoriaeth a nodir yn llawysgrif telyn [[Robert ap Huw|Robert ap Huw]] (c.1580–1665) ([[Llyfrgell Brydeinig|Y Llyfrgell Brydeinig]], Llawysgrif Add. 14905). Cofnodwyd y gerddoriaeth ar ffurf tablun tua 1613 ond mae'n adlewyrchu traddodiad barddol hŷn. Cynhwysa gorff o gerddoriaeth telyn sy'n unigryw yn [[Ewrop]], ac mae'n cyfateb i draethodau canoloesol Cymraeg sy'n disgrifio [[Pedwar mesur ar hugain]] Cerdd Dant. Addasodd Robert Evans gerddoriaeth telyn llawysgrif Robert ap Huw er mwyn ei chanu ar y [[crwth]], yn ogystal â chreu cerddoriaeth newydd ar sail y mesurau, y cyweiriau (h.y. y tiwniadau moddau) a'r addurniadau a nodir ynddi.
 
Mae sain y crwth yn gyfoethog mewn harmonigau, yn enwedig pan y'i cenir mewn tonyddiaeth hanesyddol. Mewn ymateb i ddisgrifiad Seisnig o'r [[16g]] sy'n cymharu llais Cymro gyda'i delyn i suo [[gwenynen]] (''the hussyng of a homble be''), datblygodd Mary-Anne Roberts sain llais unigryw er mwyn pwysleisio'r cyseiniannau a geir wrth i'r crwth a'r llais gydseinio.
Llinell 17:
*Welsh Music and Poetry from the 14th to the 18th Century (BRA 001, 2001)
*Kaingk: Medieval and Later Welsh Music and Poetry (BRA 002, 2004)
*Llatai (BRA 003, 2013)
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 24:
==Dolen allanol==
*[https://bragod.wordpress.com/ Gwefan swyddogol y ddeuawd]
 
{{Esboniadur Cerdd|Bragod|Bragod, gan Stephen Powell Rees|CC=BY}}
 
{{DEFAULTSORT:Bragod}}
Llinell 30 ⟶ 32:
[[Categori:Cantorion Cymraeg]]
[[Categori:Sefydliadau 1999]]
 
{{Esboniadur Cerdd|Bragod|Bragod, gan Stephen Powell Rees|CC=BY}}