B
clean up
→Cyfeiriadau: llyfrydd |
B clean up |
||
Llinell 1:
Sefydlwyd '''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''', sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn [[Llangollen]] ar [[2 Medi]], [[1906]]. Nod y gymdeithas oedd i gasglu [[cerddoriaeth]] [[canu gwerin|werin]] a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'
Mae ''Canu Gwerin'', sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob [[Awst]], a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar eu gwefan.
==Sefydlu==
Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr [[John Lloyd Williams|J. Lloyd Williams]], darlithydd mewn [[botaneg]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]] oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hanog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau<ref>{{cite book| title=Llyfr y Ganrif |editor=Gwyn Jenkins |publisher=Y Lolfa |ISBN=0-86243-504-8}}</ref>
O fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd y Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg. Yn 1988 ailargraffwyd casgliad pwysig [[Maria Jane Williams]] a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.
|