Annibynwyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B clean up
Llinell 4:
Dechreuodd hanes yr Annibynwyr yng [[Cymru|Nghymru]] yn gynnar ar ôl y diwygiadau mawr a fu yn [[Ewrop]] yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.
 
Mae tua saith mil ar hugain o aelodau yn perthyn i'r eglwysi sy'n perthyn i [[Undeb yr Annibynwyr]]. Yr Undeb hwn sy'n cydlynu gweithgarwch yr eglwysi, ond nid yw yn eu llywodraethu gan mai cred yr Annibynwyr yw mai aelodau pob eglwys unigol sy'n gyfrifol ac i benderfynu ar drefniadaeth y gynulleidfa.
 
===Y Cyfnod Cynnar===
Credir mai Annibynnwr cyntaf Cymru oedd [[John Penri]], [[Piwritaniaeth|Piwritan]] o [[Brycheiniog|Frycheiniog]] a ddienyddiwyd yn 1593 am herio’r drefn eglwysig, ond tua chanol yr 17eg ganrif y dechreuodd Piwritaniaeth fwrw ei gwreiddiau yng Nghymru. Corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol gyntaf ar dir Cymru yn eglwys blwyf [[Llanfaches]], [[Sir Fynwy]], yn Nhachwedd 1639. Cyfarfu’r gynulleidfa fechan honno o dan weinidogaeth [[Walter Cradoc]], Piwritan dysgedig o Fynwy, ac yn ôl atgofion ei gyd-Biwritaniaid, [[Morgan Llwyd o Wynedd]] a [[William Erbury]], yr oedd yno gymdeithas wresog, [[seiad]]u brwd a chanu [[salm]]au nwyfus. Byrhoedlog fu'r sefyllfa hynny. Ym 1642, dechreuodd [[Rhyfeloedd Cartref Lloegr]] rhwng [[Siarl I, brenin Lloegr|Siarl I]] a’i Senedd, a chan mai gyda’r brenin yr oedd cydymdeimlad y rhelyw o bobl Cymru, bu’n rhaid i nifer o’r Piwritaniaid ffoi i [[Lloegr|Loegr]].
 
[[Delwedd:Capel Isaac 1016677.jpg|bawd|Capel Isaac: ailadeiladwyd yr hen gapel yn 1848]]
Llinell 28:
=== Cyfnod yr Adfywio ===
[[Delwedd:Howell harris.jpg|150px|bawd|chwith|[[Howel Harris]]]]
Ym 1735, cafodd dyn ifanc o Sir Frycheiniog o’r enw [[Howel Harris]] dröedigaeth mewn gwasanaeth yn eglwys [[Talgarth]]. Wedi ei argyhoeddi o wirioneddau’r Efengyl, aeth Harris i’r priffyrdd a’r caeau i’w chyhoeddi. Yn ddiweddarach, daeth tröedigaeth Harris i’w gweld fel man cychwyn y Diwygiad Efengylaidd yng Nghymru.
 
Er bod Harris a nifer dda o’r pregethwyr efengylaidd eraill yn perthyn i’r [[Eglwys Loegr|Eglwys Sefydledig]], cawsant gryn gefnogaeth gan yr Ymneilltuwyr. Gwelwyd dylanwad y Diwygiad nid yn unig ar eglwysi Annibynnol a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r Diwygiad ddechrau, ond hefyd wrth i seiadau [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] bellhau oddi wrth yr Eglwys Sefydledig a throi’n eglwysi Annibynnol newydd.
 
Ynghyd ag egni’r Diwygiad Efengylaidd, daeth diwydrwydd a dyfeisgarwch. Yn y cyfnod rhwng 1770 a 1830, trefnodd yr Annibynwyr Gyrddau Chwarter sirol er mwyn hwyluso cydweithrediad rhwng eglwysi. Bu creu rhwydwaith o gymanfaoedd pregethu hefyd yn llwyfan effeithiol i gyflwyno’r Efengyl i’r cyhoedd.
Llinell 47:
 
=== Ymgadarnhau ===
Wrth i nifer yr Annibynwyr gynyddu yn ystod y 19eg ganrif, cynyddodd hefyd eu teimlad o gyfrifoldeb dros y gymdeithas gyfan. Wrth ddod yn ymwybodol o’u nerth cymdeithasol, daethant i sylweddoli y gallent ddylanwadu ar wleidyddiaeth a chyfrannu at lunio byd fyddai’n cyfateb i’w delfrydau.
 
Daeth y capeli yn lleoedd prysur dros ben wrth i’w gweithgarwch ymestyn i feysydd eraill ym mywyd Cymru. Sefydlwyd cymdeithasau [[llenyddiaeth Gymraeg|llenyddol]] a grwpiau [[Y Ddrama yn Gymraeg|drama]], trefnwyd clybiau cynilo, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol a thripiau Ysgol Sul.
Llinell 59:
Y brif ymgyrch wleidyddol yn y cyfnod hwn oedd honno i ddatgysylltu’r Eglwys Anglicanaidd oddi wrth y wladwriaeth, i’w gwneud yn 'enwad' cyfartal â’r Ymneilltuwyr yn hytrach nac yn eglwys wladol. I ddechrau, ymunodd Ymneilltuwyr Cymru gyda’u cymdogion yn Lloegr i alw am ddatgysylltu’r Eglwys yn gyfan gwbl, ond wrth iddynt gynyddu eu dylanwad yng Nghymru, sylweddolwyd y byddai gwell gobaith o lwyddiant pe byddent yn canolbwyntio ar ddatgysylltu yng Nghymru yn unig. Ac felly y bu. Erbyn diwedd y ganrif, yr oedd ymdrech gydwybodol yn cael ei gwneud gan Ymneilltuwyr Cymru, o bob tuedd ac enwad, i [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|ddatgysylltu’r Eglwys yn eu gwlad eu hunain]].
 
Yn ail hanner yn y 19eg ganrif, daeth rhai Annibynwyr i bleidio ‘Annibyniaeth Gyfundrefnol’. Eu gweledigaeth oedd creu ‘enwad’ oedd wedi ei ganoli, er mwyn sicrhau cysondeb ac effeithiolrwydd yng ngwaith yr eglwysi. Adeiladwyd ar drefn y Cyrddau Chwarter trwy ffurfio Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym 1872.
 
Nid oedd pawb yn cytuno â’r datblygiadau hyn. Bu’r ymgais i roi rhan amlycach i’r Cyrddau Chwarter yng ngweithgareddau rhyng-eglwysig yr Annibynwyr yn ffactor ym ‘Mrwydr y Ddau Gyfansoddiad’ yng [[Coleg y Bala|Ngholeg y Bala]] – un o’r dadleuon ffyrnicaf a welwyd gan Annibynwyr Cymru.