Tai crefydd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g, 11eg ganrif11g using AWB
B clean up
Llinell 19:
[[Delwedd:DSCN4297-strata-florida-arch.JPG|bawd|de|100px|Ystrad Fflur]]
 
Urdd o [[Mynach|fynachod]] a sefydlwyd yn yr [[11g]] oedd y [[Sistersiaid]]. Eu henw poblogaidd yng [[Cymru|Nghymru]] oedd 'Y Brodyr Gwynion', oherwydd eu gwisgoedd gwyn, mewn cyferbyniaeth â'r [[Benedictiaid]] yn eu gwisgoedd tywyll.
 
Cawsant eu cyflwyno i Gymru gan y [[Normaniaid]]. Tai crefyddol estron oeddynt i ddechrau, ac arosai rhai ohonyn nhw felly, yn arbennig yn y De a'r [[Mers]]. Ond yn y gorllewin a'r gogledd daethant yn rhan o'r diwylliant Cymreig gan chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes. Codwyd nifer o [[Abaty|abatai]] ganddyn nhw dan nawdd tywysogion Cymreig ac arglwyddi lleol Cymreig a Normanaidd.
 
Ymysg yr enwocaf o dai'r Sistersiad roedd [[Abaty Tyndyrn]], [[Abaty Ystrad Fflur]], [[Abaty Glyn y Groes]] ac [[Abaty Aberconwy]]. Roedd hefyd ddau leiandy Sistersaidd yng Nghymru, [[Lleiandy Llanllugan]] a [[Lleiandy Llanllŷr]].
 
Mae un tŷ Sistersaidd yng Nghymru heddiw, sef [[Abaty Ynys Bŷr]].
Llinell 29:
==Tai Ffransiscaidd==
 
Cyhaeddodd [[Urdd Sant Ffransis]] i Gymru yn weddol fuan wedi marwolaeth Sant Ffransis; sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] dŷ iddynt yn [[Llanfaes]] ar [[Ynys Môn]] yn [[1237]]. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarch, roeddynt wedi ychwanegu tai yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]].
 
Heddiw mae tŷ Ffransiscaidd ym [[Pantasaph|Mhantasaph]] ger [[Treffynnon]] yng Ngogledd Cymru
Llinell 58:
{{Prif|Diddymu'r mynachlogydd}}
 
Arweiniodd [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymiad y mynachlogydd]] yn ystod teyrnasiad y brenin [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] at gau pob un o dai crefydd Cymru. Anfonodd y brenin gomisiynwyr allan i archwilio cyflwr y mynachlogydd a rhoddwyd eu hadroddiad ar werth y tai, y ''Valor Ecclesiasticus'', iddo; ymhlith y goruchwylwyr yng Nghymru oedd [[Elis Prys (Y Doctor Coch)]] o Blas Iolyn. Mewn canlyniad caewyd 48 o dai yng Nghymru (bron y cyfan) yn [[1536]] ac erbyn diwedd y ddegawd doedd dim un fynachlog ar ôl.
 
Ail-gychwynwyd rhai tai crefydd yn ddiweddarach, ar raddfa lawer llai, gan yr [[Eglwys Gatholig]] a chan [[Yr Eglwys yng Nghymru|yr Eglwys Anglicanaidd]].