Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hen Gymraeg"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
B
clean up
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g, 9fed ganrif9g, 8fed ganrif8g using AWB)
B (clean up)
[[Delwedd:Beddfaen Cymraeg o'r 8fed ganrif 2.jpg|dde|bawd|150px|[[Carreg Cadfan]]: arysgrif Gymraeg o'r 8fed neu'r 9fed ganrif, yn [[Eglwys Sant Cadfan, Tywyn]]]]
 
Mae '''Hen Gymraeg''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] sy'n estyn o'r [[8g]] i'r [[12g]].
 
Prin yw'r testunau sydd wedi goroesi o gyfnod Hen Gymraeg. Yn eu plith gellir nodi'r arysgrif ar [[Carreg Cadfan|Garreg Cadfan]] (tua [[800]], mae'n debyg) a'r testun a elwir yn 'Gofnod ''surexit'''. Digwydd y testun hwnnw yn [[Llyfr Sant Chad]], a gedwir yn eglwys gadeiriol [[Caerlwytgoed]] (Lichfield). Gweithred gyfreithiol ydyw, a enwyd ar ôl ei air cyntaf (sydd, fel nifer o'r geiriau eraill, yn yr [[Lladin|iaith Ladin]]). Ysgrifennwyd y testun tua dechrau neu ganol y [[9g]]:<ref>[[Dafydd Jenkins (hanesydd)|Jenkins, D.]] ac Owen, M. E. 1983/84. The Welsh marginalia in the Lichfield Gospels. ''Cambridge Medieval Celtic Studies'', 5, 37–66; 7, 91–120.</ref>
Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y [[llawysgrifau Cymreig]] ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o [[cyfnewidiad seiniol|gyfnewidiadau seiniol]] yng nghanol neu ar ddiwedd [[gair]], e.e. '''atar''' (adar), '''nimer''' (nifer), '''douceint''' (deugain), '''merc''' (merch), '''trucarauc''' (trugarog). Ceir '''gu''' ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. '''petguar''' (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn [[treiglad|dreigladau]] ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis '''t''' i '''d''' yn '''atar/adar''', eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd '''oi''' neu '''ui''' lle yr yngenir wy heddiw, e.e. '''oith''' (wyth), '''troi''' (trwy), '''bloidin''' (blwyddyn), '''notuid''' (nodwydd). Ceir '''ou''' sydd heddiw'n '''eu''' neu '''au''', e.e. '''hithou''' (hithau), '''nouodou''' (neuaddau).
 
==Yr acen==
 
Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu '''y''' ar flaen geiriau'n dechrau ag '''s''' a chytsain arall megis '''stebill''' (ystafell), '''strat''' (ystrad). Safle'r acen yn y [[Brythoneg|Frythoneg]] oedd ar y sillaf cyn yr olaf (y goben). Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw, y sill olaf, fe fyddai’r acen ar sill olaf y gair newydd, e.e. '''trīnĭtātem''' i '''trindáwd''', a'r acen ar y sill olaf '''–áwd''' (dynoda '''΄''' safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r goben i roi '''tríndawd'''. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr '''aw''' oedd bellach yn ddiacen i '''o''' gan roi'r gair modern '''trindod'''. '''Ha''' a '''hac''' oedd ein '''ac''' a'n '''a''' ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).
417,732

golygiad