Y Fro Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tynnu a'r Gàidhealtachd yr Alban
B clean up
Llinell 6:
Mae tiriogaeth y Fro Gymraeg yn anodd ei diffinio'n fanwl, yn rhannol oherwydd y newidiadau mawr ym map ieithyddol Cymru dros y degawdau diwethaf. Oherwydd y newid syfrdanol hwn, cyhoeddodd [[Owain Owain]] map o'r Fro Gymraeg yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd fel term gwleidyddol am y tro cyntaf.<ref>{{Dyf gwe |url=http://www.owainowain.net/ygymdeithas/ytafod/tafod_y_ddraig_rhif_4.htm |teitl=Tafod Rhif 4 |awdur=Owain Owain |dyddiad=Ionawr 1964 |gwaith=Tafod y Ddraig |cyhoeddwr= |dyddiadcyrchiad=24 Hydref 2010}}</ref>
 
Cenhedlaeth neu ddwy yn ôl buasai rhywun yn medru dweud fod bron y cyfan o orllewin Cymru, o [[Ynys Môn]] yn y gogledd i ogledd [[Sir Benfro|Penfro]] a chyffiniau [[Cwm Gwendraeth]] yn y de a hyd at Ddyffryn Aman yn y rhan ddwyreiniol o sir Gar, yn gorwedd yn y Fro Gymraeg a'i bod yn cynnwys yn ogystal rannau pur sylweddol o orllewin [[Powys]] a'r hen sir [[Clwyd]]. Ond heddiw mae tiriogaeth yr iaith fel iaith y mwyafrif wedi crebachu.
 
Serch hynny gellid dadlau fod y rhan fwyaf o dir pedair o siroedd Cymru yn ffurfio calon y Fro Gymraeg heddiw, sef [[Gwynedd]], [[Sir Gaerfyrddin]], [[Ceredigion]] ac [[Ynys Môn]], ond hyd yn oed yn y siroedd hynny ni ellir dweud fod pob tref a phentref yn gadarnle Cymraeg. Ceir ardaloedd eraill y tu allan i'r pedair sir hyn gyda chanran sylweddol o siaradwyr Cymraeg, e.e. rhannau o sir [[Castell-nedd Port Talbot]], rhannau o orllewin [[Powys]], gogledd [[Sir Benfro]], ucheldir sir [[Conwy (sir)|Conwy]] (yn enwedig [[Dyffryn Conwy]]), ucheldir a chefn gwlad [[Sir Ddinbych]], a rhannau o sir [[Abertawe (sir)|Abertawe]].
Llinell 27:
 
== Agweddau gwleidyddol ==
Er mai tiriogaeth a ddiffinir gan iaith yw'r Fro Gymraeg, mae iddi ei hagweddau gwleidyddol hefyd. Yn ogystal â bod yn gadarnle i'r iaith Gymraeg mae gan y Fro y canran uchaf yn y wlad o bobl sy'n ystyried eu hunain yn [[Cymry|Gymry]] yn hytrach nag yn [[Prydeindod|Brydeinwyr]] (gyda Chymoedd De Cymru). Adlewyrchir hyn yng nghanlyniad [[Refferendwm datganoli i Gymru, 1979]], hefyd. Nid yw'n syndod felly mai'r Fro Gymraeg yw prif gadarnle [[Plaid Cymru]].
 
Mae'r mapiau isod yn dangos y tueddiadau gwleidyddol hyn: