Deddf yr Iaith Gymraeg 1967: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7981934 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Roedd y Ddeddf yn seiliedig ar 'Arolwg Hughes-Parry' a gomisiynwyd gan y llywodraeth dan bwysau gan Gymry amlwg i ymchwilio i statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr arolwg yn [[1965]]. Argymhellodd statws cyfartal i'r Gymraeg a'r [[Saesneg]] ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn llysoedd Cymru ac adrannau gweinyddol y wlad. Fodd bynnag gwrthododd y llywodraeth Brydeinig nifer o argymhellion pwysig ac roedd y Ddeddf yn adlewyrchiad gwan o'r Arolwg ei hun.
 
Mae'r Ddeddf yn fer iawn, gyda Chyflwyniad a phum Adran yn unig. Yn y Cyflwyniad cydnabyddir yr egwyddor - ond nid yr ''hawl'' ddiwrthod - i ddefnyddio'r iaith ar lafar mewn achosion cyfreithiol ("''it is proper that the Welsh language should be freely used by those who so desire in the hearing of legal proceedings in Wales''"). Ond roedd rhaid i Gymro neu Gymraes roi rhybudd o flaen llaw i'r llys er mwyn gallu gwneud hynny (Adran 1). Roedd gan weinidogion yr hawl i gyhoeddi adroddiadau yn y Gymraeg ond dim dyletswydd arnynt i wneud hynny (Adran 2-3). Yn y bedwaredd adran dileuwyd statws Cymru fel rhan o Loegr (Rhan 3 [[Deddf Cymru a Berwick 1746]]); dyma gymal pwysicaf y Ddeddf efallai, er na roddwyd llawer o sylw iddo ar y pryd.
 
Er gwaethaf ei maes cyfyng a ffaeleddau amlwg eraill yr oedd y Ddeddf yn garreg filltir yn [[Cymraeg|hanes yr iaith Gymraeg]] a pherthynas Cymru â Lloegr. Roedd [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Y Deddfau Uno]] wedi gwneud Saesneg yr unig iaith swyddogol yng Nghymru a gwrthod yr iaith Gymraeg yn gyfangwbl. Deddf 1967 oedd y newid cyntaf i'r sefyllfa honno mewn pedwar can mlynedd. Ond bu rhaid aros tan [[Deddf yr Iaith Gymraeg 1993|Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993]] i'r Gymraeg gael statws cyfartal â Saesneg, ar bapur o leiaf, ym mywyd cyhoeddus Cymru.
 
==Dolen allanol==