Ffrangeg Normanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 51 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q33850 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Tafodiaith]] ganoloesol o'r iaith [[Ffrangeg]] yw '''Ffrangeg Normanaidd'''. [[Normandi]] yng ngogledd [[Ffrainc]] oedd ei thiriogaeth wreiddiol. Hon oedd sail yr iaith lenyddol a ddatblygodd yng [[Gwledydd Prydain|ngwledydd Prydain]] ac [[Iwerddon]] ac a elwir weithiau yn '''Eingl-Ffrangeg''' (Ffrangeg Seisnig) a'i llenyddiaeth yn 'Eingl-Normanaidd' neu 'Eingl-Ffrengig'. Yn Normandi roedd hi'n iaith gyffredin i bawb ond yng ngwledydd Prydain iaith yr uchelwyr a'r llys oedd hi yn bennaf.
 
Ceir tystiolaeth fod y tywysogion Cymreig yn ei deall yn ddigon da i'w siarad; pan ddaeth [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Y Dywysoges Siwan]] i fyw gyda'i gŵr [[Llywelyn Fawr]] yn llys [[Abergwyngregin]], dyma fyddai'r iaith a siaradent gan nad oedd hi, mae'n debygol, yn deall Cymraeg; cafodd ei magu mewn llys lle siaradai pawb Ffrangeg Normanaidd ac mae'n anhebygol y byddai Llywelyn yn deall llawer o Saesneg. Mae'n debyg fod rhai o'r beirdd a'r dysgedigion yng Nghymru yn gyfarwydd â'r iaith hefyd ac roedd hi'n iaith anhepgor ar gyfer trafodaethau rhwng y tywysogion ac arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] a'r Saeson.
 
Bu'r Ffrangeg Normanaidd yn gyfrwng i lenyddiaeth sylweddol ar ddwy ochr y Môr Udd, yn ymestyn o oes [[Phillipe de Taon]] (tua 1120) hyd gyfnod [[John Gower]] (tua 1400). Cyfansoddwyd nifer o'r [[rhamant]]au [[Arthur]]aidd yn yr iaith hefyd.
 
Er iddi newid gydag amser, parhaodd Ffrangeg Normanaidd neu Ffrangeg Seisnig fel iaith masnach a gweinyddiaeth yn [[Lloegr]] hyd y 15fed ganrif; goroesoedd y ffurf arbennig ohoni a elwir yn 'Ffrangeg y Gyfraith' (''Law French'') hyd tua 1700 ac mae'n aros mewn defnydd o hyd mewn nifer o ymadroddion cyfreithiol a seremonïol.