De Excidio Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Dyddiad: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
B clean up
Llinell 2:
 
==Cynnwys==
Yn y rhan gyntaf mae Gildas yn egluro ei reswm dros ysgrifennu’r llyfr a rhoi amlinelliad o hanes [[Prydain]] dan [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] ac wedi ymadawiad y llengoedd, hyd at gyfnod Gildas ei hun. Thema Gildas yw fod y [[Brythoniaid]] wedi colli rheolaeth ar Brydain i'r [[Sacsoniaid]] fel cosb Duw am eu pechodau. Yr unig un o arweinwyr y Brythoniaid y mae Gildas yn ei ganmol yw [[Emrys Wledig]], "Ambrosius Aurelianus". Dywed Gildas fod Emrys o deulu Rhufeinig, a'i fod wedi casglu lluoedd ynghyd i wrthwynebu'r Saeson, gan ennill buddugoliaethau yn eu herbyn.
 
Cyfeiria at [[Brwydr Mynydd Baddon|Frwydr Mynydd Baddon]], ond nid yw’n crbwyll enw arweinydd y Brythoniaid yn y frwydr hon. Nid yw’n crybwyll enw [[Arthur]], a gysylltir a brwydr Mynydd Baddon gan [[Nennius]] yn ddiweddarach. Wrth drafod Mynydd Baddon, mae Gildas i bob golwg yn dweud fod y frwydr wedi ei hymladd yr un flwyddyn ag y ganed ef ei hun, er fod y gwreiddiol [[Lladin]] yn anodd yn y frawddeg yma (''quique quadragesimus quartus (ut novi) orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est'').
Llinell 14:
 
==Ysgolheictod==
Mae'r ''De Excidio'' o bwysigrwydd mawr fel un o’r ychydig o weithiau i oroesi o’r cyfnod yma yn hanes Prydain, ond rhaid cofio nad hanesydd oedd Gildas. Mae'r hanesydd [[John Davies (hanesydd)|John Davies]] yn ''Hanes Cymru'' yn ei ddisgrifio fel "pregethwr crac" tra bod [[A. W. Wade-Evans]] yn cyfeirio at y ''De excidio'' fel y llyfr a fu'n gyfrifol am osod seiliau [[hanes Cymru]] "ar gors o gelwydd" am ganrifoedd maith. Defnyddiwyd y llyfr yn helaeth gan [[Beda]] yn ei hanes ef, ''[[Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum]]'', gan ddatblygu dadl Gildas yn y ''De Excidio'' fod y Brythoniaid wedi colli rheolaeth ar Brydain fel cosb Duw am eu pechodau.
 
==Argraffiadau a chyfieithiadau==