Historia Regum Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 7fed ganrif7g (2) using AWB
B clean up
Llinell 3:
[[Delwedd:Arthur3487.jpg|200px|de|bawd|Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur]]
 
Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig [[Ynys Prydain]] o ddyfodiad [[Brutus|Brutus o Gaerdroia]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth y brenin [[Cadwaladr]] yn y [[7g]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn.
 
== Cynnwys ==
Mae'r ''Historia'' yn cychwyn gyda disgrifiad blodeuog, haeddianol enwog, o Brydain fel "Yr Ynys Wen", ynys ffrwythlon ond anghyfanedd ar y dechrau "yn yr eigion gorllewinol rhwng Ffrainc ac Iwerddon", ac yn rhoi crynhoad o'i hanes a'i chyflwr cyfoes.
 
Yn yr adran gyntaf cawn hanes yr arwr [[Aeneas|Aeneas Ysgwydwyn]] o [[Caerdroia|Gaerdroia]], y ceir ei hanes gan [[Fyrsil]] yn yr ''[[Aenid]]'', yn ymsefydlu yn yr Eidal ar ôl [[Rhyfel Caerdroia]]. Caiff ei ddisgynydd [[Brutus]] ei alltudio o Gaerdroia. Aiff ef a'i ddilynwyr i grwydro y [[Môr Canoldir]] ac, ar ôl cael gweledigaeth gan y dduwies [[Diana (mytholeg)|Diana]], mae'n hwylio i'r "Ynys Wen" sy'n cael ei henwi'n Brydain ar ei ôl (Prydain="gwlad Brutus" yn ôl Sieffre). Rhennir yr ynys yn dair teyrnas ar farwolaeth Brutus: caiff ei fab hynaf [[Locrinus]] deyrnas [[Lloegr]], mae [[Albanactus]] yn cael [[Yr Alban]] a [[Camber]] yn cael [[Cymru]] ([[Cambria]]).
Llinell 19:
 
== Cefndir a dylanwad ==
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd. Tua blwyddyn neu ddwy ar ôl hynny cyhoeddwyd yr ''Historia Regum Britanniae'', ond mae'n debyg fod Sieffre wedi bod yn ei ysgrifennu am rai blynyddoedd cyn hynny.
 
Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig [[Ynys Prydain]] o ddyfodiad [[Brutus|Brutus o Gaerdroia]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth y brenin [[Cadwaladr]] yn y [[7g]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
Llinell 48:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Cylch Arthur]]