Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tylwyth Teg"

Lleihawyd o 1 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (→‎top: clean up)
:''Am y gyfundrefn neo-baganaidd yn yr Unol Daleithiau, gweler: [[Eglwys y Tylwyth Teg]].''
 
Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn Ne Cymru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn [[chwedloniaeth]] a [[llên gwerin]] llawer gwlad, er enghraifft y ''banshee'' yn [[Iwerddon]], y ''brownies'' yn [[yr Alban]], y ''fairies'' ac ''elves'' yn [[Lloegr]], a'r ''fée'' yn [[Ffrainc]].
 
Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r [[y Celtiaid|Celtiaid]]. Yn y rhan fwyaf o'r chwedlau gwerin Cymraeg, [[Gwyn ap Nudd]] yw eu brenin. Cysylltir hwy yn aml â llynnoedd; dywedid hefyd bod [[criafolen|criafol]] yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi [[haearn]]. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr [[John Rhŷs]], [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]] ac eraill. Ceir nifer o themâu yn y chwedlau hyn; un yw bod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu babanod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld â gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ac nad oes neb yn ei adnabod bellach.
420,642

golygiad