Santes Elen Luyddog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 2:
[[Delwedd:Heracleum mantegazzianum (Meise) JPG1b.jpg|bawd|[[Ffenigl Elen Luyddog]] (''Heracleum mantegazzianum'') a enwyd ar ôl Elen.]]
 
Mae Macsen yn anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd i chwilio am y ferch yn y freuddwyd, ac yn y diwedd maent yn darganfod y gaer a'r forwyn. Maent yn gofyn i'r forwyn briodi Macsen, ond mae hi'n gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru Beli fab Manogan a'i wŷr ar ffo. Elen yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad [[Eudaf]] a'i brodyr Cynan ([[Cynan Meiriadog]]) ac Adeon yng Nghaer Seint yn Arfon ([[Segontium]]).
 
Erys Macsen i ffwrdd o [[Rhufain|Rufain]] am dros saith mlynedd, ac erbyn iddo ddychweld gyda Elen, mae ymerawdwr newydd wedi cymeryd ei le. Mae Macsen yn gwarchae dinas Rhufain am flwyddyn ,yn aflwyddianus, nes daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr [[Arfon]] i gipio'r ddinas a'i hadfer i Facsen. Yn ddiolchgar iddynt, mae Macsen yn caniatau iddynt grwydro a goresgyn tir fel y mynnant. Ar ôl blynyddoedd o grwydro ar y cyfandir cyrhaeddant [[Llydaw|Lydaw]]. Mae hanner y llu'n dychwelyd i Gymru gydag Adeon a'r lleill yn aros yn Llydaw dan Cynan. Cyfeirir at y traddodiad mewn un o'r [[Trioedd Ynys Prydain|Trioedd]] fel un o'r "Tri Chyfor a aeth o'r ynys hon, ac ni ddaeth drachefn yr un onadunt".<ref>Rachel Bromwich, ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1964; arg. newydd 1991), Triawd 35.</ref>