Llefelys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1225230 (translate me)
B →‎top: clean up
 
Llinell 1:
Cymeriad o [[hanes traddodiadol Cymru]] sy'n frenin ar [[Gâl|Ffrainc]] yn y chwedl ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'' yw '''Llefelys''' (Llefelys fab Beli fyddai ei enw llawn, ond 'Llefelys' yn unig a geir yn y llawysgrifau). Ei frawd hŷn yn y ''Gyfranc'' yw [[Lludd fab Beli]]. Fel un o blant [[Beli Mawr]] byddai'n frawd i [[Caswallon fab Beli|Gaswallon fab Beli]] hefyd. Yn ôl rhai ffynonellau mae'r dduwies [[Dôn]] yn ferch Beli ac felly'n chwaer i Ludd a Llefelys, ond nid yw'n chwarae rhan yn eu hanes. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] mae [[Niniaw]] yn frawd iddo hefyd.
 
Prif ffynhonnell ein gwybodaeth am Lefelys yw ''Cyfranc Lludd a Llefelys'', chwedl a oedd yn cylchredeg erbyn tua [[1200]] ond sy'n cynnwys deunydd hŷn yn ogystal â deunydd a addaswyd o waith Sieffre o Fynwy. Yn y gyfranc ("chwedl"), mae Lludd, fel mab hynaf Beli Mawr, yn etifeddu ei deyrnas ac yn frenin ar Brydain â'i lys yn Llundain. Ynys Prydain yw ei deyrnas, sef gwlad y Brythoniaid (yn y chwedl mae Lludd yn darganfod canol union yr "ynys" yn Rhydychen). Adroddir yn y chwedl sut y bu Tair Gormes yn aflonyddu'r deyrnas a sut y llwyddodd Lludd i gael gwared arnynt trwy ddilyn cyngor ei frawd Llefelys.
 
Dywedir fod Llefelys wedi dod yn frenin Ffrainc trwy briodas. Daeth y newyddion i lys Lludd fod brenin Ffrainc wedi marw gan adael un ferch yn etifedd a gaddo'r deyrnas i bwy bynnag a'i phriodai. Â Llefelys a'i frawd drosodd i Ffrainc mewn llynges sy'n llawn o farchogion arfog. Anfonir negesau at dywysogion ac uchelwyr Ffrainc yn gofyn llaw y forwyn; cydsynant ac mae Llefelys yn cael y forwyn a'r deyrnas.