Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Annwn"

Lleihawyd o 3 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
clean up
B (Bot: Migrating 12 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q567430 (translate me))
B (clean up)
Daw Arawn i'r golwg, yn marchogaeth march brychlas (''erchlas'') gyda 'gwisg o frethyn llwyd amdano yn wisg hela'.<ref>''Ibid.'', t. 2.</ref> Cwyna wrth Bwyll am fod mor anghwrtais. Disgrifia ei hun fel 'brenin coronog' yn ei deyrnas ei hun.
 
I wneud iawn am ei ''ansyberwydd'' (anghwrteisi) cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â [[Hafgan]] ac yn ei drechu gan achub y deyrnas. Credai [[William John Gruffydd|W. J. Gruffydd]] fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.<ref>W. J. Gruffydd, ''Rhiannon''.</ref> Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
 
Ar ôl dychwelyd i'w deyrnas, cyfeirir at Bwyll fel 'Pwyll Pen Annwfn'. Er mwyn diolch i Bwyll mae Arawn yn rhoi anrheg o foch arbennig iddo; dyma'r moch hud mae [[Gwydion]] yn dwyn o lys [[Pryderi]] yn y [[Math fab Mathonwy|Bedwaredd Gainc]].
 
Efallai fod chwedloniaeth y tymhorau, gyda brenin yr haf yn mynd dan y ddaear yn y gaeaf, yn rhan o gefndir y chwedl. Sylwer nad oes cysylltiad amlwg rhwng y [[Cwn Annwn]] a geir mewn [[llên gwerin Cymru|chwedlau gwerin]] diweddarach a helgwn Arawn yn y Pedair Cainc; ni chysylltir enw Arawn â Chwn Annwn chwaith.
 
==Traddodiadau eraill==
Ni cheir disgrifiad o daith Pwyll i Annwn yn y chwedl. Ond ym mytholeg a thraddodiadau Cymru ac Iwerddon mae'r arallfyd yn bodoli mewn dwy ffurf wahanol.
 
Mewn rhai chwedlau, e.e. ''Mordaith [[Brân]]'' (''[[Immram Brain]]''), mae'r arallfyd yn [[ynys]] neu ynysoedd a leolir yn y môr yn y gorllewin pell. Yn y gerdd '[[Preiddiau Annwfn]]' yn [[Llyfr Taliesin]], mae [[Arthur]] a'i wŷr yn anturio dros y môr yn y llong [[Prydwen]] i geisio [[Pair Annwn]].
450,625

golygiad