Arawn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 10 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q626770 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 4:
[[Delwedd:Pwyll hela(Guest).JPG|250px|bawd|Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch - yn y cefndir mae Arawn, sydd wedi gosod ei gwn ar y carw (engrafiad yng nghyfieithiad [[Charlotte Guest]] o'r [[Mabinogion]] (ail argraffiad, 1877)]]
 
Ym mhennod agoriadol y chwedl, mae [[Pwyll Pendefig Dyfed]] yn mynd i hela â'i [[helgi|helgwn]] yng [[afon Cuch|Nglyn Cuch]], [[Dyfed]]. Mae'n llithio ei helgwn ei hun ar [[carw|garw]] sydd eisioes wedi'i ladd gan helgwn rhyfeddol Arawn. Mae disgrifiad yr helgwn hyn yn un o'r darnau mwyaf cofiadwy ac adnabyddus yn y Pedair Cainc. Roeddent o liw 'claerwyn llathraidd ("disglair"), ac eu clustieu yn gochion. Ac fal y llathrai ("disgleiriai") wyned y cwn, y llathrai coched eu clustieu'.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Pedair Cainc y Mabinogi'' (Caerdydd, 1930; sawl arg. arall), t. 1. Orgraff ddiweddar</ref>
 
Daw Arawn i'r golwg, yn marchogaeth march brychlas (''erchlas'') gyda 'gwisg o frethyn llwyd amdano yn wisg hela'.<ref>''Ibid.'', t. 2.</ref> Cwyna wrth Bwyll am fod mor anghwrtais. Disgrifia ei hun fel 'brenin coronog' yn ei deyrnas ei hun.
 
I wneud iawn am ei ''ansyberwydd'' (anghwrteisi) cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw (dim ond yn ddiweddarach y daethpwyd i gysylltu'r fersiwn Cymreig o'r [[Arallfyd]] [[Celtiaid|Celtaidd]] ag [[Uffern]]) mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â [[Hafgan]] ac yn ei drechu gan achub y deyrnas. Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
 
Ar ôl dychwelyd i'w deyrnas, cyfeirir at Bwyll fel 'Pwyll Pen Annwfn'. Er mwyn diolch i Bwyll mae Arawn yn rhoi anrheg o foch arbennig iddo; dyma'r moch hud mae [[Gwydion]] yn dwyn o lys [[Pryderi]] yn y [[Math fab Mathonwy|Bedwaredd Gainc]].