Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwydion fab Dôn"

Lleihawyd o 3 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
B (Bot: Migrating 8 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1557920 (translate me))
 
==Rhan Gwydion yn chwedl ''Math fab Mathonwy''==
Yn ôl y chwedl, ni allai [[Math]] fab [[Mathonwy]], brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i draed yng nghôl morwyn, ac eithrio yn amser rhyfel. [[Goewin]] ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae brawd Gwydion, [[Gilfaethwy fab Dôn]], yn syrthio mewn cariad a hi. Dyfala Gwydion fod rhywbeth o'i le ar ei frawd, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.
 
Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] at [[Pryderi]], prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi, yn ei lys yn [[Rhuddlan Teifi]]. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo'r moch a gafodd gan [[Arawn]] brenin [[Annwfn]] yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond ar ôl i Gwydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lledir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i [[Caer Dathyl|Gaer Dathyl]] ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.
Roedd yn rhaid i Math gael morwyn newydd gan nad oedd Goewin yn forwyn bellach. Cynghorodd Gwydion iddo ddewis [[Arianrhod]], chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei [[hudlath]] ef. Wrth wneud hyn gadawodd fachgen mawr penfelyn, a bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws gadawodd rywbeth bychan cyn mynd. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn ddiweddarach clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor darganfod mab bychan. Rhoddwyd ef allan i'w fagu am gyfnod, yna magwyd yn y llys gan ei ewythr Gwydion.
 
Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu [[Caer Arianrhod]] i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod a dweud "O ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?" Tyngodd Arianrhod [[dynged]] ar ei mab "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i."
 
Wrth [[aber]] [[Afon Menai]], ar draeth y Foryd, tyfai llawer o hesg. Trwy hud adeiladodd Gwydion long ohonynt. Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd iddynt fel yr ymddangosent fel dau grydd. Hwyliodd y ddau yn y [[llong]] hyd tua chaer Arianrhod ac angori wrth y [[Bryngaer|gaer]]. Bu’r ddau yn ddiwyd yn gwneud esgidiau nes i rai o forynion Arianrhod eu gweld a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto.
 
"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Blodeuwedd. Daliwyd hi wrth [[Llyn y Morynion]] a dywedodd Gwydion wrthi,
"Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan [[Afon Cynfal]] a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.
 
==Traddodiadau eraill==
760,443

golygiad