I Ble'r Aeth Haul y Bore?: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎Adolygiad: clean up
Llinell 29:
 
==Adolygiad==
Yr hyn sy'n gwneud gwaith Eirug Wyn yn unigryw yw ei fod yn medru cynhyrchu nofel boblogaidd ar ôl nofel boblogaidd a hynny heb aberthu safonau llenyddol. Mae'r ffaith iddo ennill Gwobr Daniel Owen ynghyd ag ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn cadarnhau hynny.
 
Nodwedd arall o'i waith yw ei ddychymyg anhygoel wrth iddo droi at wahanol feysydd. O nofel antur at nofel ar [[pêl-droed|bêl-droed]] ac at, o bopeth, nofel ar [[Elvis Presley|Elvis]]. Y tro hwn, yn ''I Ble'r Aeth Haul y Bore'' trodd i fyd gorthrwm yr [[Rhestr pobloedd brodorol yr Amerig|Indiaid brodorol]] yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Cymysgedd yw hon o ffaith a ffuglen, rhywbeth sy'n cael ei adnabod yn Saesneg fel ''faction''. Fe'i seiliwyd ar ymfudo ac alltudiaeth y [[Navaho]] o Geunant de Chelley i Fort Defiance ac yna i randir [[Bosque Redondo]].
 
Mae'n gosod ei destun yn effeithiol iawn gyda rhagarweiniad sy'n addasiad o hunangofiant Geronimo. Llwyddodd i greu naws bywyd yr Indiaid gyda'r brawddegau yn troi’n lluniau o flaen ein llygaid. Hwyrach fod ei waith teledu gyda [[Ffilmiau'r Bont]] yn ffactor yn ei ddawn ddarluniol. O hynny ymlaen cawn hanes gwarthus alltudio'r llwythi, hanes sy'n cynnwys rhai cymeriadau go-iawn fel [[Kit Carson]], Manuelito, y Cadfridog Carleton a [[Geronimo]] ei hun.
 
Gedy'r nofel flas chwerw wrth i ni sylweddoli nad oes dim wedi newid. Mae'r llywodraeth a alltudiodd yr Indiaid i drefedigaethau yn dal, ganrif a hanner yn ddiweddarach, i wneud yr un peth i bobloedd eraill mewn gwledydd ar draws y byd. A'r hyn sy'n gwneud y cyfan mor drist yw mai hanes cymharol ddiweddar yw hwn. Ym 1886, pan alltudiwyd yr holl Indiaid i wahanol drefedigaethau, fe gynhyrchodd [[Gottlieb Daimler]] ei gar modur cyntaf.