Yn y Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[file: → [[Delwedd: using AWB
B clean up
Llinell 24:
| dilynwyd =
}}
Nofel gan yr awdur [[Geraint V. Jones]] ac a gyhoeddwyd ym 1990 ydy '''''Yn Y Gwaed'''''. Enillodd y nofel [[Gwobr Goffa Daniel Owen|Wobr Goffa Daniel Owen]] ym 1990 a chafodd ei chyhoeddi gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Ail-argraffwyd y llyfr yn 2010. Mae'r nofel bellach yn lyfr gosod ar gwrs Cymraeg [[TGAU]].
 
Adrodda'r nofel hanes teulu fferm Arllechwedd yng Ngogledd Cymru yn ystod y [[1980au]], lle triga'r prif gymeriadau sef Mam, a'i phlant "Fo", Robin a Mared.
 
==Plot==
Dechreua'r nofel wrth i Robin gael hunllef yn llawn elfennau tywyll a sinistr. Caiff ei ddeffro gan ei fam a'i chwaer. Er eu bod yn frawd a chwaer, ceir awgrymiadau cyson o'r bennod gyntaf fod atyniad rhywiol rhwng Robin a Mared. Treulia Robin ei ddiwrnodau yn gweithio ar y fferm, er gwaethaf y boen parhaus mae'n teimlo yn ei gylla.
 
Dysgwn wrth i'r nofel fynd yn ei blaen fod Robin a Mared yn ffrwyth perthynas a gafodd eu Mam gyda Dewyrth Ifan, sef brawd ei thad a pherchennog gwreiddiol Arllechwedd. Symudodd Mam i fyw yn Arllechwedd pan oedd yn un ar bymtheg oed ac o ganlyniad mae'n amddiffynnol iawn o'r atgofion o Dewyrth Ifan. Dysgwn hefyd eu bod wedi cael plentyn arall, Fo, ond fod ganddo ef broblemau â'i iechyd. O ganlyniad, caiff ei gadw yn y llofft stabal ddydd a nos. Ceir cyfeiriadau cyson yn y nofel at fewnlifiad i gefn gwlad Cymru a'r awyrlu'n hedfan yn isel dros ardaloedd amaethyddol.
Llinell 40:
* [[gwallgofrwydd]]
* [[euogrwydd]]
* [[cyfrinach|cyfrinachedd]]edd
* [[cosb]]