Y Faner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu; gwiro
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Baner Cymru Mar 4 1857.jpg|bawd|unionsyth|Cyfrol 1, rhif 1; blaendudalen rhifyn cyntaf o Faner ac Amserau Cymru; 4 Mawrth 1857]]
Papur newydd wythnosol, [[rhyddfrydol]] [[Cymraeg]] a gyhoeddid yn [[Dinbych|Ninbych]] oedd '''''Y Faner''''' a sefydlwyd yn [[1843]] gan [[Thomas Gee]]. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, ''[[Amserau Cymru]]'' a gyhoeddwyd yn [[Lerpwl]], yn [[1859]] gan y cyhoeddwyr [[Gwasg Gee]] i greu '''''Baner ac Amserau Cymru'''''. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.
 
Daeth ''Baner ac Amserau Cymru'' yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.
 
Y llenor [[T. Gwynn Jones]] oedd is-olygydd ''Baner ac Amserau Cymru'' yn 1890. Gweithiodd [[William Thomas (Islwyn)]] a [[Gwilym R. Jones]] ar y papur am gyfnod. Bu [[Hafina Clwyd]] hefyd yn is-olygydd a golygydd ''Y Faner''.<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/papurau_bro/y_bedol/newyddion/medi05.shtml BBC]</ref>
 
Cyhoeddwyd ''Y Faner'' hyd [[1 Ebrill]] [[1992]],<ref>[http://www.newsplanwales.info/c005.htm Newsplan Cymru]</ref> cyn ei ail-fedyddio'n ''[[Y Faner Newydd]]'' tua [[1997]].<ref>[http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru//browse/3836771 papuraunewydd.llyfrgell.cymru;] adalwyd 25 Mehefin 2016.</ref>
 
==Llinell amser==