Annála Connacht: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 16eg ganrif16g, 15fed ganrif15g, 13eg ganrif13g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Llyfr]] blwyddnodau am y blynyddoedd [[1224]] i [[1544]] yw'r '''Annála Connacht''' ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Mae'n gasgliad o gofnodion hanes a geir mewn [[llawysgrif]] [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] a ysgrifennwyd yn y [[15g]] a'r [[16g]] gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg.
 
Mae'r rhannau agoriadol, sy'n cychwyn gyda marw'r Brenin [[Cathal Crobdearg Ua Conchobair]] o [[Connacht]], yn arbennig o fanwl ac yn rhoi hanes Connacht yn y [[13g]] a hanner cyntaf y ganrif olynol, yn arbennig yn achos hanes y teuluoedd Ó Conchobhair a Burke. Ond mae'r hanes yn llai manwl a mwy mympwyol am yr 16eg ganrif. Er hynny, mae'n ddogfen bwysig iawn sy'n cofnodi llawer o ddigwyddiadau mewn cyfnod a fyddai fel arall yn gymharol dywyll yn hanes talaith Connacht ac [[Iwerddon]] yn gyffredinol.
 
Ymddengys fod ''Annála Connacht'' ac ''[[Annála Clonmacnoise]]'' yn deillio o ffynhonnell gyffredin neu o leiaf yn perthyn i'w gilydd o ran ei hanes testunol.