Medb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 16 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1141828 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 5:
 
[[Image:sligo medb.jpg|200px|bawd|chwith|'Carnedd Medb' ar ben Cnoc na Riabh, [[Swydd Galway]].]]
Mae Medb ac un arall o'i gwŷr, [[Ailill mac Mágach|Ailill]] yn ymddangos yn y ''Táin Bó Cúailnge''. Pan mae Medb ac Ailill yn cymharu eu cyfoeth, maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw [[Finnbhennach]]. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog [[Donn Cuailnge]] o Cúailnge (Cooley).
 
Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed [[Cúchulainn]]. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall.
 
Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, ond wedi cyrraedd yno mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.
 
Lladdwyd Medb gan Furbaide, mab Eithne, fel dial am lofruddiaeth ei fam. Yn ôl y chwedl, claddwyd hi dan garnedd 40 troedfedd o uchder ar gopa [[Cnoc na Riabh]] ([[Saesneg]]: ''Knocknarea'') ger [[Sligo]].