Arwisgiad Tywysog Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Caernarfon castle interior.jpg|bawd|de|Castell Caernarfon]]
[[Delwedd:Cofia 1282, a protest against the investiture (1537984)4.jpg|bawd|Gwrthdystio yn erbyn arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon, Mawrth 1969]]
'''Arwisgiad Tywysog Cymru''' yw'r seremoni o arwisgo mab hynaf teyrn Lloegr a'r teitl [[Tywysog Cymru]], teitl a roddir i fab hynaf y teyrn ers [[1301]], er i nifer yng Nghymru ymwrthod rhag ei alw'n hynny, gan deimlo i linach gwir dywysogion Cymru gael ei ddifa gan goron Lloegr.
 
Roedd yn arferol trefnu'r arwisgiad yn y Senedd yn [[Llundain]]. Ar un adeg roedd seremoni debyg ar gyfer Arglwyddi, ond gwnaed i ffwrdd a hyn yn [[1621]], wrth i'r nifer o Arglwyddi gynyddu.
Llinell 7:
Yn [[1911]], gwelwyd newid, pan ddaeth Arwisgiad Tywysog Cymru, yn ddiweddarach [[Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig|Edward VIII]], yn seremoni gyhoeddus yng [[Castell Caernarfon|Nghastell Caernarfon]]. Credir mai [[David Lloyd George]] oedd tu ôl i'r newid yn y trefniadau.
 
Cafwyd Arwisgiad arall yng Nghastell Caernarfon yn [[1969]], pan arwisgwyd [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Y Tywysog Siarl]] fel Tywysog Cymru. Yn wahanol i'r seremoni yn 1911, bu cryn dipyn o wrthwynebiad i'r Arwisgiad yma gan genedlaetholwyr Cymreig. Roedd twf [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] yn ofid i'r Blaid Lafur a gwelodd [[George Thomas]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] ar y pryd, gyfle i wrthweithio'r tyfiant hwn wrth drefnu arwisgo'r tywysog yng Nghaernarfon yn 1969.
 
Ymhlith y mudiadau oedd yn gwrthwynebu'r Arwisgiad, roedd [[Mudiad Amddiffyn Cymru]]. Ar [[30 Mehefin]] 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn [[Abergele]] pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.