Cernyweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
B clean up
Llinell 18:
|asiantaeth = {{nowrap|[[Partneriaeth yr Iaith Gernyweg]]}} ({{Iaith-kw|Keskowethyans an Taves Kernewek}})
}}
Mae '''Cernyweg''' (''Kernewek'', ''Kernowek'', neu ''Curnoack''<ref>[http://www.evertype.com/gram/gerlyver-2000-preface-me.pdf Rhagair i eiriadur Nicholas Williams: Saesneg-Cernyweg; golygydd: Michael Everson; adalwyd 27 Awst 2012.]</ref>) yn [[iaith]] [[Ieithoedd Celtaidd|Geltaidd]]. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng [[Cernyw|Nghernyw]] yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar [[BBC Radio Cornwall]] bob nos Sul. Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr [[Cymraeg]] wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.
 
Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio ''Kernewek Dre Lyther'' lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat. {{angen ffynhonnell}}
Llinell 34:
Ar ddechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]], gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y [[1920au|dauddegau]], sefydlwyd ''[[Gorsedh Kernow]]'' - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr [[Eisteddfod]] yng Nghymru. Ym [[1967]], sefydlwyd [[Kesva an Taves Kernewek]] - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym [[1979]] sefydlwyd [[Kowethas an Yeth Kernewek]] (''Cymdeithas yr Iaith Gernyweg'') i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).
 
Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9fed ganrif,<ref>Copi o ''De Consolatione Philosophiae'' gan Boethius yw'r llawysgrif. Mae'r nodyn Cernyweg ''ud rochashaas'' i'w weld uwchben y Lladin y mae'n ei gyfieithu. Gweler: Sims-Williams, P. 'A New Brittonic Gloss on Boethius: ud rocashaas', Cambrian Medieval Celtic Studies 50 (Winter 2005), 77-86.</ref> ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.
 
Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio 'Kernewek Kemmyn', sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.
 
Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig), y ffurf a ddyfeisiwyd gan [[Robert Morton Nance]] yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan [[Agan Tavas]].